![Sut i ymdopi dros yr 诺yl?](/staticarchive/1412d75021e790d6275f2804db8d81e5bb466034.jpg)
Mae pawb yn hoff o gael gwyliau o'r ysgol, ond mae'n wir dweud nad yw gwyliau'r Nadolig yn f锚l i gyd i bawb. Dyma ambell beth sy'n gallu poeni pobl ifanc dros yr 诺yl yn ogystal ag ambell tip yngl欧n 芒 sut i ymdopi.
Teulu Does dim gwadu fod teuluoedd yn bethau gwych ond gwallgof.
Mae'r Nadolig yn ein gorfodi ni i fod yn yr un ystafell 芒 nifer o aelodau o'r teulu ar yr un pryd.
Er bod hyn yn swnio'n hyfryd iawn, mae'n aml yn gallu sbarduno tensiwn a dadlau. Mae hyn yn arferol gyda llaw! Teulu anghyffredin iawn sydd ddim yn dadlau.
Efallai fod Mam neu Dad wedi gadael y teulu neu efallai fod brawd neu chwaer wedi bod yn camymddwyn yn ddiweddar.
Beth bynnag fo'r broblem, mae'n bwysig cofio nad yw'r Nadolig yn berffaith i neb ac efallai y gallai hanner awr fach ar dy ben dy hun yn yr ystafell wely o bryd i'w gilydd wneud byd o les.
Gor-fwyta Mae nifer fawr o ferched a rhai bechgyn yn gweld y Nadolig yn anodd am eu bod nhw'n dueddol o orfwyta dros yr 诺yl a theimlo'n wael yngl欧n 芒'u hunain ar 么l gwneud hynny.
Tip mwyaf Mosgito yw peidio 芒 gwrthod bwyd blasus dros yr 诺yl, ond i gofio bod yn rhesymol ac yn gymedrol wrth fwyta.
Os sylwi di, mae'r siocled cyntaf (a'r ail!) yn fwy blasus na'r rhai fydd yn dilyn bob tro. Ceisia dy orau i gadw cofnod o'r hyn rwyt ti'n ei fwyta a'i wir fwynhau yn lle meddwl am beth gei di i'w fwyta nesaf.
Diflasu Mae adeg y Nadolig yn dy orfodi di i fod yn y t欧 am amser hir ac ar ben hyn mae hi'n tywyllu'n gynnar ac yn aml mae'n dywydd mawr y tu allan. Mae nifer o bobl yn gallu teimlo'n ddiflas o achos hyn.
Ceisia dy orau i godi'n gynnar er mwyn mwynhau'r boreau a'r golau ddaw gyda nhw.
Yn ogystal, beth am drefnu mynd i rywle gyda dy ffrind neu fynd 芒'r ci am dro gyda dy fam? Fe fydd ychydig o ymarfer yn gwneud byd o les i dy deimladau di.
Pwysau i fwynhau Does dim yn waeth na theimlo dan bwysau i fod yn hapus os nad wyt ti. Efallai dy fod ti a dy gariad wedi gorffen cyn y Nadolig neu efallai dy fod ti'n becso am rywbeth arall.
Paid 芒 rhoi pwysau arnat ti dy hun a cheisia fwynhau'r 诺yl yn y ffordd rwyt ti am ei mwynhau. Nid y pethau nodweddiadol Nadoligaidd y mae pawb yn eu mwynhau. Gall fod mai gwrando ar dy albwm newydd ar dy ben dy hunan bach fydd wrth dy fodd di. A pham lai hefyd!.
Anrhegion drud Os yw ffrind yn wir ffrind, fydd ganddo fe neu hi ddim pripsyn o ots beth rwyt ti wedi ei brynu fel anrheg.
Yn amlach na pheidio mae anrheg rad, anrheg ddoniol, neu anrheg rwyt ti wedi ei gwneud i ffrind yn llawer mwy personol ac yn golygu mwy. Bydd yn greadigol a phaid 芒 gwario bom!