Yn yr adran yma, bydd Richard Foxhall yn eich cyflwyno i'r arallfydol - ydych chi wedi gweld rhywbeth rhyfedd yn hofran yn yr awyr? Rhywbeth na ellid ei esbonio?
Gan Richard Foxhall
Lloerennau ac awyrennau?
Tybed os ydych chi erioed wedi gweld rhywbeth anesboniadwy yn yr awyr? Os ydych, nid y chi yw'r unig un. Mae cannoedd o adroddiadau yn cael eu danfon i'r Weinyddiaeth Amddiffyn pob blwyddyn gan y cyhoedd ac eraill, ac mae nifer sylweddol ohonynt bellach ar gael i'w weld ar eu gw锚fan.
Ond, beth yn union yw ffenomenon yr 'ufo'? O ba le y daw'r strwythurau anesboniadwy? Yn 么l rhai does dim byd o'r fath yn bodoli hyd yn oed.
Rydym yn tueddu i feddwl am yr 'ufo' neu 'flying saucer' i fod yn ffenomenon reit ddiweddar, ond drwy hanes mae yna enghreifftiau o bethau anarferol a gafodd eu gweld, a'u cofnodi. Beth oeddynt ni allwn fod yn siwr, ond yn sicr nid awyrennau, lloerennau na'r orsaf ofod oeddynt.
Esboniadau naturiol
Mae swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn a hyd yn oed credwyr cadarn yn y ffenomenon yn gytun bod rhwng 90 - 95% o adroddiadau a dderbynir yn gamddehongliadau o bethau naturiol ac esboniadwy, er enghraifft s锚r gwib, adar, balwniau, awyrennau, lloerennau, cymylau ac yn y blaen, ond beth tybed yw'r 5-10% nad oes ateb parod ar gael i'w esbonio?
Fe'i honnir gan rhai bod bodau o blanedau eraill wedi bod yn ymweld 芒'r ddaear ers miloedd lawer o flynyddoedd, a hyd yn oed wedi hadu dynol-ryw ar y blaned.
Ac i brofi'r pwynt, maent yn pwyntio at nifer o leoliadau ar draws y byd lle mae lluniau wedi eu darganfod sydd wedi eu paentio ar waliau ogofau, a'r rhain wedi eu dyddio mor bell 芒 29,000 o flynyddoedd yn 么l. Maent yn cynnwys delweddau tebyg iawn i'r soserau hedegog a ffotograffiwyd yn ystod y 1950au ac ymlaen at heddiw.
UFOs filoedd o flynyddoedd yn 么l
Efallai y 'sighting' hynaf i'w gofnodi'n ysgrifenedig yw'r ymweliad a ddisgrifiwyd gan y proffwyd Eseciel yn yr Hen Destament:
"...Wrth i mi edrych, gwelais wynt tymhestlog yn dod o'r gogledd, a chwmwl mawr a th芒n yn tasgu a disgleirdeb o'i amgylch, ac o ganol y t芒n rywbeth tebyg i belydrau pres. Ac o'i ganol daeth pedwar creadur, a'u hymddangosiad fel hyn: yr oeddynt ar ddull dyn..."
Mae'n bosibl i ddarllen hwn fel disgrifiad blodeuog o'r llong ofod Apollo 11 yn glanio ar wyneb y lleuad, gyda'r astron么tiaid yn dod allan; ac wrth ddisgrifio'r cerbydau nefol:
"...o ran gwneuthuriad yr oeddent yn edrych fel pe bai olwyn oddi mewn olwyn...ac fel yr edrychwn arnynt yr oedd eu cylchau - y pedwar ohonynt - yn llawn o lygaid oddi amgylch. Uwchben y creaduriaid yr oedd ffurfafen, yn debyg i belydrau crisial, ac yn ofnadwy; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod."
Tydi hi ddim yn cymeryd llawer o ddychymyg i lunio darlun o 'Flying Saucer' anferth gyda llwyth o oleuadau o'i chwmpas yn hofran uwch ei ben.
Disgleirdeb rhyfeddol
Mae'r hanes cynharaf hyd yma o welediad anesboniadwy yng Nghymru yn dyddio o gyfnod y deuddegfed ganrif. Gellid ei ddarganfod yn 'Hanes Brenhinoedd Prydain' sydd yn cynnwys llawysgrif hynafol a throswyd o'r iaith Frytanaidd i'r Lladin gan Sieffre o Fynwy tua 1138.
Mae'r llawysgrif yn adrodd hanes brenhinoedd Prydain cyn dyfodiaid y Saeson. Ar y pryd, roedd Uthr Pendragon, brenin yr Hen Gernyw yn rhyfela yn erbyn Guintmias, pennaeth tylwythol y Sacsoniaid:
"...ymddangosodd seren o'r faint a disgleirdeb rhyfeddol ac un pelydren yn ymestyn ohono. Ar eithaf y pelydryn hwn yr oedd pelen o d芒n ar ffurf draig ac o enau'r ddraig ymestynnai dau baladr o oleuni, y naill, yn 么l pob golwg dros wl芒d G芒l yn ei hyd, a'r llall yn troi dros f么r Iwerddon ac yn ymrannu'n saith pelydren llai."
UFOs Oes Fictorianaidd
Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cofnodwyd gwelediad anarferol gan offeiriad eglwys ar Ynys M么n. Roedd gw芒s fferm allan yn y caeau yn gweithio, pan welodd wrthrych yn debyg i 'long hwylio' o'r cyfnod, yn ymlithro'n hollol ddistaw dros ei ben mewn cyfeiriad gorllewinol.
Ceir sawl adroddiad o oleuadau rhyfedd yn ardal Egryn, Sir Feirionydd, sydd yn dyddio n么l i 1905. Cyhoeddodd y 'Barmouth Advertiser' nifer o erthyglau yn adrodd hanesion o welediadau o oleuadau rhyfedd a welwyd yn yr ardal, gan gynnwys cyfweliad 芒 phregethwr lleol i symudiad y Bedyddwyr, y Parch. H.D. Jones:
"Wedi teithio cryn dipyn, ymddangosodd y golau rhyfedd yn sydyn yng nghanol y l么n, ychydig lathenni o flaen y car lle'i chwaraeodd, weithiau o'i blaen, ac weithiau y tu 么l. Wrth gyraedd y groesffordd, lle mae'r l么n i Egryn yn troi'n sydyn i'r chwith, nid aeth y golau yn syth yn ei flaen, ond tr么dd i gyfeiriad Egryn, gan aros y tu blaen i'r car."
"I fyny i'r adeg yma, roedd wedi bod yn un golau sengl, ond wedi trafaelio tipyn ar hyd l么n Egryn, ymddangosodd p锚l fechan goch o d芒n, gyda dwy olau wen yn dawnsio o'i chwmpas. Arhosodd y golau coch yn llonydd yn yr awyr am beth amser, gyda'r ddwy wyn yn hedfan o'i gwmpas. Yn y cyfamser, roeddem wedi teithio yn ein blaenau, gan adael y goleuadau ar 么l. Cyfunwyd y goleuadau yn 么l i un golau, a rhuthrodd hwnnw ar 么l y car, gan ei basio. Fel hyn y gwelsom ni'r golau, am dros filltir o'n siwrnai."