Ffenomenau goruwchnaturiol yng Nghymru
Ffactorau pwysig wrth ystyried ysbrydion yng Nghymru gynt oedd y tywyllwch - nid oedd dim llawer mwy na channwyll wan a llusern yn rhwystro'r nos rhag cau amdanynt.
Nid oed dim llawer i gadw angau draw chwaith ac felly dyma oedd swyddogaeth y rhan fwyaf o ysbrydion.
Er bod stor茂au am ysbryd yn aflonyddu ar rywle oherwydd bod trysor cuddiedig yno, ran amlaf rhagddweud maent fod marwolaeth gerllaw.
Caed arwyddion niferus o hynny megis ci yn udo, ceiliog yn canu yn y nos, hyd yn oed cri'r ddylluan - heb son am yr Aderyn Corff - sef aderyn goruwchnaturiol a fyddai'n hofran o gwmpas pan oedd rhywun yn mynd i farw.
O fewn cof arferai pobl gau llenni ffenestri eu cartrefi wedi i rywun farw yn y gymdogaeth. Er mai fel arwydd o barch y gwnaent hynny yn y diwedd y rheswm gwreiddiol oedd rhwystro Angau rhag llygadu ysglyfaeth arall.
>h3>TolaethFfenomen oruwchnaturiol arall mewn cysylltiad 芒 marw oedd y Tolaeth, sef s诺n anesboniadwy.
Yn ystod gwaeledd rhywun efallai y clywai'r teulu glec anarferol neu s诺n nad oedd esboniad amlwg iddo.
Maes o law, pan ddeuent a'r arch i'r t欧, digwyddai daro o bosib yn erbyn rhyw gelficyn a byddai rhywun yn si诺r o ddweud "Dyna'r union s诺n glywsom ni cyn i hwn-a-hwn farw!"
Y mathau mwyaf nodedig o ysbrydion oedd yn rhagfynegi angau oedd y Gannwyll Gorff a'r Toili.
Gwelai rhywun olau cannwyll yn symud yn ara' deg o ryw d欧 yn y gymdogaeth i fynwent neilltuol.
Ni fyddai o angenrheidrwydd yn dilyn y llwybr hawddaf ac agosaf o'r naill le i'r llall.
Byddai maint a lliw'r gannwyll yn arwyddocaol. Petai'r teithiwr yn sylweddoli mai Cannwyll Gorff ydoedd ac yn mentro'n agosach ati - gwelai mai ysbryd y sawl oedd i farw oedd yn ei chario ac ymhen peth amser - rhai wythnosau o bosib - byddai rhywun farw yn y cylch, ac am ryw reswm, megis lluwchfeydd eira neu rwystr tebyg ni ellid cludo'r arch ar y ffordd arferol i'r fynwent.
Sut bynnag y byddid wedi gweld y gannwyll yn symud ymlaen llaw, felly y byddai yn digwydd mewn ffaith hefyd.
Yr enw mewn llawer ardal ar ymddangosiad ysbryd angladd ymlaen llaw oedd y Toili.
Crefishgyn oedd yr enw arno yn ardal Trefdraeth, Sir Benfro, ac er nad oedd term neilltuol amdano mewn llawer ardal, credent yn bendant ynddo er hynny.
Gwelent ysbrydion yr hers a'r cerbydau a thyrfa (fawr weithiau) o alarwyr, ysbaid sylweddol cyn i'r angladd iawn gymryd lle.
Dywed Twm o'r Nant yn ddi-flewyn ar dafod yn ei hunangofiant iddo weld y fath beth.
Adrodd Sarah Mary Davies wrthyf am y Toili welodd hi pan oedd yn forwyn ar fferm yn Llangeler gan fynnu iddi weld ymhlith y galarwyr ddynes yn gwisgo het arbennig - yr union het a phluen a edmygai hi ar ei phen mewn cymanfa ac ar achlysuron pwysig eraill.
Gweithdy saer
Sy'n dod a ni at ystyriaeth bwysig. Ymhlith yr holl arwyddion goruwchnaturiol oedd yna fod Angau gerllaw, oedd bod rhywbeth yn aflonyddu ar yr estyll oedd yn barod yng ngweithdy'r saer ar gyfer gwneud coffinau.
Mae'r Dr. Iorwerth C Peate yn arddel y goel yn ei hunangofiant ac mewn ambell ardal clywid y saer wrth ei waith ysgeler ddyddiau cyn marw un o'r ardalwyr.
Felly meddai un rhesymolwr - mae ysbryd y saer, yn defnyddio ysbryd morthwyl i daro ysbryd hoelen i mewn i ysbryd darn o bren.
Yr un anomali sy'n perthyn i'r het a'r bluen. Sut mae dillad gan ysbrydion?