Y noson o'r blaen cafodd un o drigolion Coquitlam, maesdref ychydig o filltiroedd tu allan i Vancouver, dipyn o fraw pan gafodd ymwelydd
annisgwyl wrth ei ddrws cefn.
Mae gweld eirth yn crwydro strydoedd maesdrefi Vancouver yn rhywbeth digon cyffredin yn yr Hydref ond anaml y daw llew mynydd i'r cyffiniau gan eu bod yn anifeiliaid swil iawn.
Ar Ynys Vancouver ei hun mae 'na boblogaeth helaeth o lewod mynydd ac yn aml iawn fe ddont i wrthdrawiad â phobl leol.
Felly y tro nesaf y byddaf yn mynd allan i'r ardd ar ôl swper gwell imi gofio am brofiad y teulu o Coquitlam.
Dim ond yn Canada eh!
Idris R Hughes,
Dyffryn Comox,
Ynys Vancouver.
|