Bellach mae Rebecca, 36 oed, yn rhugl yn yr iaith ac newydd ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf.
Yn gwbl ddall manteisiodd ar dechnoleg y we i'w helpu i ddysgu Cymraeg ac mae'n trosglwyddo testunau i braille trwy gyfrifiadur er mwyn gallu eu darllen.
Mynd i gyngerdd Yn rhyfeddol, nid oes ganddi unrhyw gysylltiadau teuluol Cymreig ac ni wyddai ddim am y Gymraeg nes clywed y côr yna yn canu rai blynyddoedd yn ôl.
"Mi wnes i fynychu cyngerdd côr cymdeithas Gymreig yng Nghanada a ffeindio'r gerddoriaeth mor hardd mi benderfynais fy mod eisiau ymuno â chôr felly fy hun. Wedi gwneud hynny mi ddarganfyddais nad oeddwn i'n deall y geiriau yr oeddwn yn eu canu!" meddai.
Y lle cyntaf y trôdd iddo am gymorth wedyn oedd llyfr Teach Tourself Welsh gan drosglwyddo'r testun i braille drwy ei chyfrifiadur.
Angen clywed Er mwyn medru clywed yr iaith manteisiodd ar wersi Cymraeg fel Catchphrase ar wefan 大象传媒 Cymru. Mae hefyd yn gwrando ar 大象传媒 Radio Cymru ar y we a bu ar gwrs sgwrsio yn Nant Gwrtheyrn.
"Mi sylweddolais i yn fuan fod yn rhaid gwrando yn hytrach na dim ond darllen," meddai.
Eleni, fodd bynnag oedd y tro cyntaf iddi ymweld â'r Eisteddfod Genedlaetho a dywed iddi fod yn wythnos wefreiddiol.
"Gan na wyddwn beth oedd yr Eisteddfod doedd gen i ddim disgwyliadau arbennig ond wedi bod yma y mae hi yn bopeth fyddwn i wedi bod eisiau iddi fod," meddai.
Ond wedi rhai diwrodau o grwydro'r Maes dywedodd ei bod yn gweld eisiau ei chi tywys oedd wedi gorfod aros adref yn Nhoronto oherwydd rheolau cwarantîn.
"Hoffwn yn fawr gael siarad â'r bobl sy'n gwneud y rheolau hyn," meddai.
Wrth ei gwaith, gartref, mae'n cynorthwyo pobl wan eu golwg fyw yn annibynnol yn eu tai eu hunain.
Gyda'i ffon wen a chymorth parod eisteddfodwyr eraill go brin i Rebecca golli llawer ar faes Mathrafal!
Yn ystod ei hymweliad bydd yn cysylltu hefyd â'r Tad Deiniol o'r eglwys uniongred Roegaidd ym Mlaenau Ffestiniog gan ei bod hithau hefyd yn aelod o'r eglwys honno.
Gwlad y seintiau Er y bydd yn dychwelyd i Ganada o fewn y dyddiau nesaf dywedodd yr hoffai'n fawr ddychwelyd i Gymru
"Rwy'n byw yn Nhoronto ond byddai'n well gen i fyw yng Nghymru," meddai gan egluro mai rhan o apêl y wlad iddi yw ei thraddodiadau crefyddol cyfoethog yn ymestyn yn ôl i oes y seintiau, ei iaith a'i diwylliant.
"Jyst y bywyd Cymreig i gyd," meddai. "Mae wedi bod yn bleser arbennig siarad a chyfarfod a chymysgu efo'r bobl a chael y cyfle hwn i gwrdd â'r bobl yr wyf wedi bod yn darllen amdanyn nhw," meddai.
|