Mae cymdeithas a sefydlwyd i ymchwilio i chwedl Madog a darganfyddiad yr America gam bychan yn nes at gael coffâd o bwys i'r tywysog o Gymro.
Mewn cyfarfod yn Llandrillo-yn-Rhos, Ionawr 27, 2007, cafodd Cymdeithas Ymchwil Ryngwladol Madoc (MIRA) gefnogaeth unfryd cynghorwyr lleol i godi cerflun yno ger glan y môr.
Yn ôl y chwedl, o borthladd Llandrillo ger Bae Colwyn yr hwyliodd y Tywysog Madog tua'r gorllewin yn 1170 a glanio maes o law ar arfordir America - a hynny dros dri chan mlynedd cyn Columbus.
Ac yn ôl y chwedl dychwelodd Madog i Gymru a hwylio unwaith eto - o Ynys Wair (Lundy) yn y de y tro hwn - gan fynd a mwy o bobl gydag ef i boblogi'r tir newydd a nwyddau ar gyfer y rhai aeth gydag ef ar y fordaith gyntaf.
Mae MIRA cyn baroted â neb i gydnabod nad oes prawf hanesyddol i hyn ddigwydd o gwbl a dyna'r rheswm pam y sefydlwyd y gymdeithas - er mwyn dod o hyd i brawf a throi chwedl yn ffaith hanesyddol.
"Dydym ni ddim yn gwybod ydi hi'n stori wir ond mae'n stori sy'n haeddu bod yn wir ac fe fyddem ni'n hoffi medru profi hynny," meddai Allyn Rees, cadeirydd MIRA wrth y cyfarfod.
Ar sail y ffaith fod hon yn chwedl mor gyfarwydd i'r Cymry cefnogodd y cyfarfod yn unfryd y syniad o gael cerflun i'w nodi gyda nifer o gynghorwyr lleol, gan gynnwys y Cynghorydd Brian Cossey, Maer Bae Colwyn, yn addo eu cefnogaeth frwd mewn egwyddor. Byddant yn awr yn hyrwyddo'r achos yn lleol.
Eisoes mae llechen yn tynnu sylw at fordaith Madog o fewn libart tŷ preifat ger y prom yn Llandrillo-yn-Rhos ond gobaith MIRA a'i gefnogwyr yw codi rhywbeth llawer iawn mwy uchelgeisiol na hynny.
Eisoes mae rhai a fu'n gysylltiedig â chodi cerflun i Gatrin merch Owain Glyndŵr yn Llundain, Medi 2001, wedi addo cynnig syniadau ar gyfer cyfarfod nesaf MIRA yn Llandrillo fis Mai.
Mab Owain Gwynedd Yn ôl y chwedl un o feibion Owain Gwynedd oedd Madog a chyhoeddwyd sawl llyfr am ei fordaith honedig i'r America gydag un yr Athro Gwyn A Williams, Trefenter, yr un awdurdodol.
Yn fras, y ddamcaniaeth yw iddo ef a'i gymdeithion lanio rywle oddi ar arfordir Gwlff Mecsico ac wedyn ymsefydlu yn Georgia, Tennessee a Kentucky gan symud i fyny'r Missouri lle dywedir iddyn nhw ymgyfeillachu a chriw o Indiaid o genedl y Mandaniaid.
Esgorodd hyn ar chwedl arall am lwyth o frodorion Americanaidd a siaradai Gymraeg a'r chwedl honno yn pesgi ar y ffaith fod ceyrydd tebyg i rai a welir yng ngogledd Cymru yn nyffryn Tennessee; y ffaith fod y Mandaniaid yn defnyddio cychod yr un siap a chwryglau a bod rhai geiriau tebyg i eiriau Cymraeg yn eu hiaith.
Yn y ddeunawfed ganrif mentrodd John Evans o'r Waunfawr i'r America i geisio dod o hyd i'r gwir ond er na ddaeth o hyd i 'Indiaid Cymraeg' gwnaeth waith gwerthfawr yn mapio am y tro cyntaf y rhan hon o ogledd America ac y mae lle hanfodol iddo ef yn ymchwiliadau MIRA.
"Mae nifer o bobl y ddwy ochr i'r Iwerydd wedi bod yn ymchwilio'r stori dros y blynyddoedd," meddai Howard Kimberley o Faesteg, yr arian byw y tu ôl i MIRA, sydd wedi sefydlu gwefan helaeth 'Madoc1170' i hyrwyddo ymchwil pellach.
"Mae pwnc fel hwn yn siwr o fod â'i amheuwyr a'r hyn yr ydw i'n ei obeithio yw y bydd y wefan yn fodd i gyflwyno dwy ochr y ddadl," meddai.
Mae'n gobeithio hefyd y gellir dod o hyd i arian maes o law i gasglu tystiolaeth enetig. Yn y cyfamser mae'n parhau a'i ymchwil ei hun i'r hanes.
|