Cyfle i ebostio o'r ddalen hon Mae tîm rhaglen fynegi barn ar y teledu yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan mewn rhifyn fydd yn cael ei recordio yn Adeilad Reuters, Times Square, Efrog Newydd ar Fehefin 12.
Hwn fydd y tro cyntaf i Pawb a'i Farn sy'n cael ei chyflwyno gan Dewi Llwyd gael ei recordio dramor - a dim ond yr eildro iddi grwydro y tu allan i Gymru. Ac er mwyn sicrhau y bydd yna'r dewis gorau o gwestiynau i drethu panelwyr fydd yno i ateb cwestiynau ar bob math o bynciau cyfoes mae'r 大象传媒 yn gwahodd siaradwyr Cymraeg a fydd yn Efrog Newydd y diwrnod hwn i gymryd rhan yn y rhaglen a chynnig cwestiwn i'w drafod. Sut i gysylltu Gellir cysylltu a Phawb a'i Farn ar ebost yn syth o'r ddalen hon. Neu gellir ffonio: 004429 2032 2957 o'r Unol Daleithiau neu 029 2032 2957) Dywedodd Dewi Llwyd, cyflwynydd y rhaglen, ei fod ef yn edrych ymlaen at weld materion gwahanol i'r arfer yn destun trafod ar Pawb a'i Farn: "Yn ystod y gyfres, mae gwylwyr Pawb a'i Farn yn gallu bod yn weddol sicr y byddwn ni'n trafod pynciau fel amaeth, y Cynulliad, iechyd, yr iaith, addysg ac ati ond yn Efrog Newydd dwi'n ffyddiog y bydd yna bynciau trafod eitha gwahanol - ac mi fydd golwg Cymry America ar rai pynciau sy'n gyfarwydd i ni hefyd yn dra gwahanol," meddai
Ymhlith y pynciau y mae o'n eu rhagweld y mae agwedd Americaniaid at y rhyfel yn erbyn terfysgaeth a thrychineb Medi 11. Er mai dyma ymweliad cyntaf Pawb a'i Farn ag Efrog Newydd dydi'r ddinas ddim yn gwbl ddieithr i Dewi. "Dros y blynyddoedd dwi wedi ymweld droeon ag Efrog Newydd. Gan amla'n gwibio yno am ddiwrnod neu ddau ar drywydd ambell stori fawr ryngwladol. Amser i drafod "Y tro yma mi fydd hi'n eitha braf cael treulio mwy o amser ymhlith rhai o Gymry'r ddinas a thrafod eu hagwedd nhw at y rhyfel yn erbyn terfysgaeth, er enghraifft, a thrychineb Medi 11, yr Arlywydd Bush, llwyddiant crefydd yn America, gwersi economaidd ar gyfer Ewrop, yn ogystal â'u teimladau ynglyn â Chymru a Chymreictod," meddai. "Dim ond ers dwy neu dair blynedd y mae rhai ohonyn nhw wedi bod draw yn Efrog Newydd ond mae eraill yno ers deugain mlynedd ac rwy'n hyderus y bydd yna gryn wahaniaethau barn. "Mae rhai fydd yn y gynulleidfa wedi dweud yn barod eu bod nhw'n hynod falch ein bod ni'n mynd draw yno. Dwi'n mawr obeithio y bydd rhaglen ychydig yn wahanol yn apelio hefyd at gynulleidfa arferol Pawb a'i Farn yn ôl yng Nghymru." Blwyddyn mor ddyrys Dywedodd Dewi mai dim ond unwaith o'r blaen y mae Pawb a'i Farn wedi bod y tu allan i Gymru - yn Llundain rhyw ddwy flynedd yn ôl. "Gan iddi fod yn flwyddyn mor ddyrys yn Efrog Newydd, mi gawson ni'r syniad o ddarlledu un o'r rhaglenni eleni o'r fan honno. "Mi fydd y gynulleidfa gryn dipyn yn llai nag arfer wrth gwrs - rhyw wyth deg fydd yna bob nos Wener fel arfer ond y tro yma rydym ni'n disgwyl rhyw bump ar hugain. Os ydych chi am fod yn un ohonyn nhw, ebostiwch yn awr.
|