|
|
Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai
gan Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada. Kauai - yr Ardd Ynys Dydd Sadwrn, Ebrill 20, 2002 Cyfeirir at Kauai yn aml fel yr Ardd Ynys.
|
Hon yw'r ynys hynaf yn y gadwyn ac am flynyddoedd lawer bu Hollywood mewn cariad a Kauai.
Dyma lle ffilmiwyd golygfeydd hynod Jurassic Park, Raiders of the Lost Ark, King Kong a South Pacific.
Gwlad amrywiol Mae'n wlad llawn gwrthgyferbyniadau; gwlad amrywiol ac anhygoel o dlws.
Dyna'r Waimea Canyon er enghraifft - Grand Canyon y Pacific. Mae'n 3,600 troedfedd o ddwfn, dwy filltir o led, a deng milltir o hyd ac fe'i crewyd oherwydd gwendid yng nghrwst y ddaear ac effaith gwlaw trwm dros y canrifoedd.
Mae Mynydd Wai'ale'ale hefyd yn tynnu'n sylw. Hen losgfynydd 5,208 troedfedd o uchel ac un o'r llefydd gwlypaf yn UDA efo 444 o fodfeddi o wlaw y flwyddyn. Dyma gartref i ddwsinau o raeadrau ac enfysau hardd.
Mae'r Spouting Horn yn ne yr Ynys yn denu ymwelwyr hefyd. Yma cewch weld dwr môr yn cael ei chwythu hanner can troedfedd i'r awyr trwy dwll yn y graig gan wneud swn tebyg i hen injan stêm ar fin cychwyn.
Rhywbeth i bawb Mae rhywbeth i bawb yn Kauai o siopa hyd at syrthio neu fe lolian ar y traethau euraidd dan gysgod palmwydd tal neu syrffio neu chwarae golff.
Hyd yn oed fynd am heic neu badlo canw mewn steil.
Mae rhywbeth i blesio'r anturus a'r gwangalon ar Kauai; ynghyd a siawns i ddarganfod mangre fach arbennig i chi eich hunan. Unwaith y byddwch wedi bod yma byddwch yn dychwelyd adref gan freuddwydio am ddod yn ôl i'r Ynys Hud .
A dyna a wnawn ninnau mae'n debyg.
|
|