大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Plant Plant y stryd
Dafydd Tudur yn sôn am gymorth i blant

Un o effeithiau tlodi yn Nicaragua yw bod plant yn gorfod gweithio i ennill eu cynhaliaeth.

Yn y trefi a'r dinasoedd, gwelir plant yn gwerthu nwyddau a byrbrydau ar y stryd neu'n cnocio ffenestri ceir, sydd wedi stopio wrth oleuadau, i ofyn am fwyd.

Y ganolfan Mae Movimiento Comunal de Matagalpa (MCM), un o bartneriaid Cymorth Cristnogol, yn cadw canolfan gymdeithasol i blant sy'n gweithio ar y stryd yn ninas Matagalpa.

Mae tua 120 o blant ar gofrestr y Ganolfan, y rhan fwyaf ohonynt rhwng wyth a 15 oed.

Gweithio, gorffwys a chwarae
Dyluniwyd y Ganolfan fel y gallai'r plant dreulio hanner eu diwrnod yno. Mae ynddi dair prif ystafell, pob un â phwrpas arbennig ei hun - gweithio, gorffwys a chwarae.

Geilw'r plant eu hunain yn Las Hormiguitas - Y Morgrug Bach - enw sy'n cyfleu i'r dim holl brysurdeb trefnus y ganolfan.

Wrth gamu i mewn i'r adeilad, gwelwn arwyddion o weithgarwch ym mhob man. Yr oedd lluniau a phosteri ar y waliau, llyfrau ar y silffoedd, plant yn darllen, rhai yn lliwio, ac eraill yn crwydro o un ystafell i'r llall.

Wedi i ni weld pob ystafell yn ei thro, ymgasglodd y plant ar gyfer y cyngerdd i'n croesawu.

Fe'm cyflwynwyd i aelodau pwyllgor etholedig y plant a cawsom ddawns draddodiadol gan rai o ferched y ganolfan.

Yr oedd yr holl berfformwyr yn siarad yn huawdl ac yn gwbl gyfforddus o flaen cynulleidfa.

Arian Cymorth Cristnogol
Ariennir y Ganolfan hon gydag arian oddi wrth gefnogwyr Cymorth Cristnogol. Nid yw llywodraeth Nicaragua yn barod i'w hariannu am nad yw'n credu fod y canlyniadau'n ddigon amlwg yn y tymor byr ond does gen i ddim amheuaeth bod y Ganolfan yn gwneud gwahaniaeth pwysig i fywydau'r plant a welsom.

Yn chwech oed
Bûm yn siarad â Novia Rodriguez, merch 16 oed sy'n gwerthu byrbrydau a goginir gan ei mam.

Clywodd am y ganolfan pan oedd yn chwech oed a dechreuodd ei mynychu.



Dywedai i ymaelodi â'r grŵp dawnsio fod yn ddihangfa iddi, yn enwedig oddi wrth ei gwaith cartref!

Hi oedd yn gyfrifol am chwilio am ddawnswyr newydd i ymuno â'r grŵp.

Gallai Novia dystio bod y Ganolfan yn ehangu gorwelion y plant ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd a chryfhau y cyfeillgarwch sydd rhyngddynt.

O ystyried y bydd nifer o'r plant hyn yn treulio gweddill eu hoes yn ardal Matagalpa, mae cyfraniad y Ganolfan i'r gymuned leol hefyd yn sicr o ddod yn amlwg gydag amser.





cysylltiadau
  • Erthyglau eraill Dafydd Tudur o Nicaragua

  • de america

    Nicaragua
    Nicaragua - wedi'r corwynt

    Plant y stryd

    Nicaragua - brwydr economaidd

    Nicaragua - cynhaeaf y corwyntoedd




    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy