Treuliodd Dafydd Tudur, 25 oed, o Fangor wyth diwrnod yn Nicaragua fis Mawrth 2006 yn ymweld â phartneriaid Cymorth Cristnogol a fu'n gwneud gwaith ail-adeiladu yn dilyn y Corwynt Mitch yno.
Dyma ei ddau gyfraniad cyntaf i 大象传媒 Cymru'r Byd
Cynhaeaf corwyntoedd
Brwydr economaidd
Her HIV
Plant y stryd
Bu Dafydd Tudur, sy'n enedigol o Gaerdydd ond yn awr yn byw ym Mangor yn cefnogi Cymorth Cristnogol ers blynyddoedd.
"Y llynedd bum yn weithgar gyda'r ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi a chymerais ran yng ngwasanaeth dathlu pen-blwydd Cymorth Cristnogol yn 60 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri.
"Rwy'n edrych ymlaen at gael ymweld ag un o'r gwledydd mae Cymorth Cristnogol yn gweithio ynddi a chael gweld sut mae arian mae pobl yn ei gasglu yng Nghymru yn cael ei wario ben arall y byd," meddai.
Y Wladfa Nid hon oedd taith dramor gyntaf Dafydd:
"Rwy wedi bod yn y Wladfa fel rhan o fy ymchwil i fywyd a gwaith Michael D. Jones, ac wedi dysgu rhywfaint o Sbaeneg, ond dyma'r tro cyntaf imi fynd i wlad yng nghanolbarth America," meddai.
Gydag ef yn Nicaragua yr oedd criw ffilmio Cymorth Cristnogol er mwyn rhoi sylw arbennig i'r ymweliad yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, Mai 14 - 21, 2006, ar y cyfryngau neu mewn capeli, ysgolion ac ati.
Y llynedd cododd Wythnos Cymorth Cristnogol £14.5 miliwn dros wledydd Prydain
|