Mae rhai o'r trigolion lleol yn honni fod y gaeaf wedi cyrraedd Taipei. Yn anffodus rwy'n ei chael yn anodd deall hyn gyda'r tymheredd yn y ugeiniau uchaf ac ambell i ddiwrnod heulog, ddigon i droi'r croen yn frown.
Mae'r dillad gaeaf wedi dod allan o'i cwpwrdd, pawb gyda chot fawr y gaeaf, sgarff a rhai gyda het.
Wn i ddim beth fuasai'n digwydd iddynt ar lethrau Eryri! Rhewi'n gorn reit siwr.
Pysgodlyd Bu'r cariad, Marie-Louise, a minnau yn grwydro rhywfaint dros y misoedd diwethaf. Taith mewn awyren fechan i'r Ynysoedd Dropig Pescadores' sydd rhwng y tir mawr, China, a Taiwan.
Y Portiwgeaid enwodd yr ynys yn Pescadores sy'n golygu Pysgotwyr yn iaith Portiwgal.
Pescadores, Pescados yn Sbaeneg, Poissons yn Ffrangeg ac, wrth gwrs, Pysgod yn Iaith y Nefoedd..
Tybed oes unrhyw gyswllt rhwng y geiriau yma?
Os ydych yn yr ardal, mae'r Pescadores werth eu gweld, y môr yn glir ac yn lân, bwyd môr gwych, pentrefi pysgotwyr tlws a digonedd o dywod melyn.
Y Philippines Mis Medi aethom i'r Philippines i dreulio chwe diwrnod yn deifio scuba.
Wel am le braf, yn y môr cynnes bob dydd - 28 gradd c - ymysg y pysgod trofannol - a Siarcod!
Ia wir, rhai anferth ond roeddynt yn reit dda ac yn cadw'n ddigon pell oddi wrthym.
Rhaid ei fod yn amau nag Cymro oeddwn i!
Carchar rhyfel Ychydig benwythnosau'n ôl aethom i wasanaeth Sul y Cofio gyda gwasanaeth ar lethrau uwchlaw cyn garchar rhyfel Siapaneaidd Chinguashi (Gwersyll Uffern) ar arfordir gorllewin Taiwan.
Carchar mewn chwarel gopr oedd o gyda mwy nag 1,100 o garcharion rhyfel Prydeinig a'r Gymanwlad yno am flynyddoedd yn dioddef a'u hamddifadu.
Rwy'n deall fod o leiaf dau Gymro wedi bod yn garcharion yma, Les Davis a Jack Edwards a mynychodd y ddau y gwasanaeth y llynedd.
Yn anffodus, nid oeddynt yno eleni. Buaswn wedi hoffi eu cwrdd wrth gwrs.
Ymweld â Chymru Dim ond ychydig o ddyddiau i fynd a bydd Marie-Louise a minnau yn hedfan i Gymru, i dreulio cyfnod gyda fy nheulu ym Mangor a'r cyffiniau gan edrych ymlaen at weld y Dolig.
Nid oes sôn am Ddolig yma yn Nhaiwan, sydd, yn hollol naturiol, o wlad y Bwda.
Nid oes miri na sbri ychwaith na neb yn mynd yn hurt ac yn gwario fel nad os yfory ar anrhegion.
Mae gwadd i bawb ddod draw i Taipei ar Ragfyr 21 am ginio Dolig Cymreig yng ngwesty'r Far Eastern Hotel gyda htrigolion y Clwb Cymraeg.
Bydd Mark Kirk o Dde Cymru, sydd yn rheolwyr ar yr adran fwydydd a diodydd, yn paratoi cinio gwerth chweil gyda blas Cymreig iddo!
|