|
|
Serch a chân!
Cyfraniad diweddaraf Gareth Gwyn, Cymro sy'n byw yn Taipei.
|
Mae'r flwyddyn 2004 wedi bod yn un reit brysur - ac mae'r dyfodol agos yn edrych yn brysur i aelodau Clwb Cymraeg Taipei.
Dechreuodd y flwyddyn yn rhamantus iawn gan imi ofyn i fy nghariad, Marie-Louise, fy mhriodi ar ddiwrnod Santes Dwynwen pan oeddem yng Nghanada dros wyl blwyddyn newydd y Chineaid.
Bryn Terfel Yn gynnar fis Mawrth cawson dderbyniad Gwyl Dewi gyda'r noson yn dechrau gwrando ar Bryn Terfel yn perfformio yn y National Concert Hall yma yn Nhaipei ac yna ymlaen i gartref aelod i wrando ar delynores yn canu caneuon Cymreig.
Yn hwyrach y noson ddaeth Bryn Terfel draw i fwynhau gweddill y noson gyda ni.
Yr oedd Mary Jones (nid o'r Bala!) fy Mam, a'n chwaer, Enyd, draw hefyd ar y pryd yr holl ffordd o Fangor.
Dwi'n siwr y bydd angen to newydd ar yr adeilad ar ôl yr holl ganu - noson dda iawn!
Braf oedd clywed y newyddion da am lwyddiant Bryn Terfel yn y Classical Brit Awards.
Mae sôn hefyd fod Côr Orffews Treforys yn dod draw yma mis Gorffennaf - cyfle arall am barti go dda felly gyda'r Clwb Cymraeg.
Gwyl Gymreig Un o brosiectau mwyaf yr haf fydd helpu'r Cwnsel Prydeinig yma yn Nhaiwan gan eu bod am gynnal Gwyl Gymreig yma dros fis Awst.
Dros bob penwythnos ar draws Taiwan bydd gwersi Cymraeg yn cael eu cynnal gan yr Athro Gareth Gwyn; darlithoedd ar bynciau fel, hanes, diwylliant a diwydiant Cymru, gemau Rygbi, a nosweithiau ffilmia a dramâu Cymraeg.
Yr ydym yn chwilio hefyd am fandiau Cymraeg i ddod draw yma. Bydd yna gyfle hefyd i flasu bwyd Cymreig yn un o gwestai moethus Taipei.
I orffen y misoedd prysur o'n blaenau mae gennym ein priodas i'w threfnu, ar gyfer Hydref 9 - rhyw bedair awr i'r gogledd yn Toronto.
|
|