大象传媒

Dyn het a git芒r yn fardd plant newydd

Twm Morys - methu sgwennu barddoniaeth heb het

"Allwch chi ddim sgrifennu barddoniaeth heb het."


Twm Morys, gwisgwr hetiau gydag enwocaf Cymru, a ddewiswyd yn Fardd Plant Cenedlaethol ar gyfer flwyddyn nesaf.

Disgrifiodd y penodiad yn anrhydedd ac yn bleser.

Mae'n dilyn Ifor ap Glyn.

Ond yn ogystal a'i het dywedodd Twm, sydd eisoes yn cynnal gweithdai sgrifennu gyda phlant, y bydd yn dibynnu'n fawr ar ei git芒r hefyd i greu perthynas 芒 phlant yn ysgolion Cymru.

"Mi fydd mynd 芒 git芒r efo fi, yn enwedig un sydd yn sgleinio fel hon, yn help garw i gynnwys pawb yn y gweithgarwch," meddai.

"Yn enwedig y rhai sydd ar yr ymylon am wahanol resymau; efallai eu bod yn blant swil neu ella eu bod yn methu mynegi eu hunain a byth yn cyfrannu at y wers. Ac wedyn mae gynnoch chi rai sy'n parablu gydol y wers.

"Felly, er mwyn tynnu pawb i mewn mae peth fel hyn [y git芒r] yn help garw a beth fydda i'n wneud ydi gwneud barddoniaeth a gwneud penillion a hefyd gwneud alaw efo nhw ac erbyn i mi fynd o'r ysgol mi fyddan nhw wedi canu'r g芒n a gan amlaf mae hi ar d芒p iddyn nhw," meddai.

Yn feirdd naturiol

Disgrifiodd y plant y bydd yn cydweithio 芒 hwy fel "beirdd naturiol" a hynny'n rhoi pleser arbennig iddo.

"Ydyn, mae plant yn feirdd naturiol a hynny am y rheswm eu bod nhw'n newydd yn y byd. Mae'r byd yn newydd iddyn nhw ac maen nhw'n rhyfeddu at bob dim.

"A'r hyn y mae bardd da wedi ei wneud, hefyd, ydi cadw'r gallu hwnnw i ryfeddu at y byd a'i weld o o'r newydd drosodd a thro," meddai.

Twm Morys

Ychwanegodd bod iaith hefyd yn beth yr un mor newydd i blant.

"Ac mi fyddan nhw'n dweud pethau cofiadwy iawn heb feddwl dim. Fy hogan bach i yn gofyn, 'Tada, faint o'r gloch wyt ti?'

"Ac iddyn nhw does yna ddim ffin rhwng y dychymyg a'r byd a dyna sydd yn gwneud barddoniaeth a dyna sydd yn gwneud bardd - rhywun sydd wedi medru cadw'r gallu hwnnw i ryfeddu ac i greu y byd o'r newydd o hyd ac felly mae hi'n bleser mawr i rywun fatha fi gael mynd i'w canol nhw i weithio," meddai.

"Ac mae hynny'n ei gwneud hi'n haws i rywun fel fi sgrifennu barddoniaeth gyda phlant na chydag oedolion," ychwanegodd.

Anodd i athrawon

Dywedodd fod ysgolion Cymru yn cynnig her arbennig i rai fel ef.
"Rydw i wedi gweithio mewn ysgolion ers rhai blynyddoedd ac mae ysgolion Cymru yn bethau cymhleth iawn oherwydd ein cefndir diwylliannol.

"Y mae'n sefyllfa ddyrys iawn ac mi rydw i'n teimlo fod gennym ni feirdd, sy'n ymweld ag ysgolion dim ond am ddiwrnod, fantais dros athrawon sydd yno bob dydd yn gorfod dysgu'r pynciau a hefyd yn gorfod delio 芒 materion cymhleth yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol.

"Ond pan gyrhaeddwn ni, yn enwedig gyda git芒r sy'n sgleinio, gallwn wneud llawer o waith da," meddai.

Dywedodd mai ei ddymuniad yn ystod ei flwyddyn yn fardd plant yw medru cyrraedd rhai o'r plant hynny sydd "ar yr ymylon".

"Hynny yw, peidio ag anwybyddu y plant hynny sydd ddim wedi arfer 芒'r math yma o ddiwylliant ac nad ydynt yn gwybod sut i berthyn ac y mae yna fwy a mwy ohonyn nhw erbyn hyn.

"Ac er mwyn iddyn nhw gael bywyd llawnach yr ydw i'n teimlo y gallai eu cyffwrdd 芒 barddoniaeth am awr hyd yn oed, fod o help," meddai.

"Yr ydw i wedi sylweddoli ers sbel mai'r gwaith mwyaf gwerthfawr yr ydan ni'n ei wneud ydi rhoi hyder i'r plant. Hyder i fynegi eu hunain a hyder i berthyn. Gwneud iaith yn b锚l rydan ni ac wrth chware efo honno mae'r plant (heb yn wybod, yn dysgu geirfa, gramadeg, hanes eu plwy a hanes Cymru a hynt a helynt y byd," meddai.

Tri o blant

Yn dad i dri o blant rhwng tair a phedair oed, Dyddgu, Tudwal a Begw, dywedodd iddo orfod ystyried yn ofalus cyn derbyn y swydd gan fod , Begw, yn dioddef o anhwylder sydd yn galw am lawer o sylw gan ei rhieni.

"Y mae hi, ar y funud, yn yr ysbyty gyda'i Mam," meddai.

Yn fardd cadeiriol mae Twm Morys yn adnabyddus hefyd fel canwr, darlledwr a cholofnydd sy'n cynnal colofn farddol wythnosol yn Y Cymro.

Fe'i ganwyd yn Rhydychen a'i fagu yn Llanystumdwy, lle mae ef a'r teulu bellach wedi ymgartrefu.

Enillodd ei Gadair genedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2003.

Mae'n aelod o d卯m Talwrn Y Tywysogion ac yn canu gyda'r gr诺p Bob Delyn a'r Ebillion.

Mae ei lyfrau yn cynnwys: Ofn Fy Het (Barddas, 1995), Triawd Machynlleth (gyda Jan Morris; Viking, 1994), Eldorado (gydag Iwan Llwyd; Gwasg Carreg Gwalch, 1999), 2 (Barddas, 2002).

A phan ofynnwyd iddo wedi'r cyhoeddiad pa mor bwysig yw'r hetiau amrywiol y mae'n eu gwisgo iddo fel bardd ei ateb pendant oedd:"Allwch chi ddim sgrifennu barddoniaeth heb het!"


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.