Gydag astudiaethau yn dangos fod pobl ifanc Cymru yn yfed yn drymach na phobl ifanc o'r un oed mewn gwledydd Ewropeaidd eraill bydd gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill gystadleuaeth gart诺n unigryw yn Eisteddfod yr Urdd 2009.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lawnsio ym Mar Di-Alcohol, pabell Cytun, am unarddeg bore, Mawrth, Mai 26.
Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc Cymru o beryglon camddefnyddio alcohol a chyffuriau 2heb bregethu" ac fe fydd bar di-alcohol y cyngor yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala hefyd.
Pedwar cartwn
Cynlluniwyd y pedwar o gartwnau yn y gystadleuaeth gan Cen Williams mewn partneriaeth 芒 phobl ifanc o gapeli Bethlehem, Gwaelod-y-Garth a'r Tabernacl, Efail Isaf.
Maen nhw'n dangos nifer o sefyllfaoedd 'Beth sy'n digwydd nesaf?' yn ymwneud ag effaith gormod o alcohol neu gyffuriau.
Mae'r gystadleuaeth, sy'n agored tan Awst 31 yn gwahodd pobl ifanc i gynnig eu syniadau hwy i orffen y golygfeydd hefyd ar ffurf cart诺n.
Ymysg y gwobrau mae beiciau, tocynnau awyren a thocynnau i sioeau. Gellir y cartwnau o wefan y Cyngor.
Cymry'n yfed mwy na neb
"Mae astudiaethau cymharol ar draws Ewrop yn dangos fod pobl ifainc Cymru, sydd yn eu harddegau, yn yfed cyfran sylweddol uwch o alcohol na phobl ifanc o'r un oed mewn gwledydd Ewropeaidd eraill ," meddai'r Cyngor mewn datganiad.
Yn 么l yr ystadegau dywedodd 27% o fechgyn a 26% o ferched 13 oed iddynt feddwi o leiaf ddwywaith.
Ac yn 么l Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008 - 2018 mae hanner holl ddynion Cymru ac un o bob tair o ferched yn yfed mwy na'r lefel a ystyrir yn ddiogel.
"Mae'n ymddangos fod merched o bob oedran, a dynion ifanc, yn yfed mwy nag erioed," meddir.
'Mewn ffordd hwyliog
Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, mai'r syniad tu 么l i'r gystadleuaeth cysylltu gyda phobl ifanc Cymru mewn ffordd hwyliog yn hytrach na "phregethu".
"Trwy eistedd i lawr gyda phapur a phensil, a bod yn greadigol, ein gobaith yw y byddant yn gwrando ar ein neges ac o bosibl yn meddwl ddwywaith cyn yfed gormod neu gymryd cyffuriau," meddai. "Ein nod yw dangos rhai o'r cartwnau gorffenedig gorau ar ein gwefan er mwyn ysbrydoli eraill," ychwanegodd.