Fydd Joe Allen, llywydd dydd Mercher yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe, ddim ar y maes yn ystod y dydd.
Anfonodd Joe, a chwaraeodd yn y g锚m allweddol yn Wembley nos Lun, ei ymddiheuriadau a neges fideo a ddarlledwyd ar y maes.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd na allai fod yn bresennol oherwydd "rhesymau personol".
Yr unig un sy'n siarad Cymraeg o d卯m llwyddiannus yr Elyrch diolchodd Joe I'r urdd am y cyfleoedd gynigiodd y m,udiad iddo.
Daw y chwaraewr canol cae 21 oed yn wreiddiol o Arberth Sir Benfro ac ymunodd 芒 th卯m p锚l-droed Abertawe pan oedd yn 16 oed.
Meddai mewn datganiad a oedd wedi ei baratoi ymlaen llaw: "Pan oeddwn i yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Arberth ac Ysgol Y Preseli rwy'n cofio teithio i Aberystwyth i gystadlu mewn pencampwriaethau p锚l-droed.
"Roedden nhw wastad yn ddiwrnodiau roeddwn i'n edrych ymlaen atynt yn fawr. O ran fy ngyrfa roedd cymryd rhan mewn cystadlaethau fel hyn yn help enfawr i mi ddatblygu fel chwaraewr ac yn un o'r rhesymau pam fy mod i'n chwarae p锚l-droed i'r safon yr ydw i heddiw."
Ac yntau wedi chwarae i'r Elyrch dros 100 o weithiau mae Joe wedi ennill dau gap yn chwarae dros Gymru hefyd.
Dywedodd fod ganddo atgofion melys o fynd i aros yng ngwersyll Llangrannog pan oedd yn blentyn a hefyd cymryd rhan yn yr Eisteddfodau gyda'r ysgol.
"Mae'n bleser anferthol i fod yn Llywydd y Dydd eleni. Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw'r Eisteddfod i blant a phobl Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weld fy ninas leol yn croesawu pobl o bob cwr o'r wlad. Rwy'n si诺r y bydd yn Eisteddfod i'w chofio," meddai ar ei neges fideo.