大象传媒

Y Fedal Gyfansoddi: Perlau yng nglaw Abertawe

Mared Emlyn gyda'r fedal gerdd a enillodd

Yn addas iawn ag ystyried y tywydd y bore hwnnw Perlau yn y Glaw oedd teitl y gwaith a enillodd i Mared Emlyn o Langernyw Fedal Gyfansoddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe 2011.

A'i ffugenw hi oedd "Ambarel" - rhywbeth yr oedd pawb ei angen ar y maes fore llun.

Ond erbyn y pnawn yr oedd 'perlau' Mared yn disgleirio mewn heulwen a'i gw锚n hithau yn goleuo ei hwyneb wrth iddi siarad am y dawnsfeydd telyn a gyfansoddodd ar gyfer y gystadleuaeth.

A chyfaddef hefyd bod cyfansoddi "yn waith caled".

Eglurodd iddi gyfansoddi yn benodol ar gyfer y delyn oherwydd ei heimlad bod prinder darnau cyfoes ar gyfer yr offeryn.

Plesiodd ei gwaith caled y beirniaid, Einion Dafydd ac Eric Jones yn arbennig gydag Einion Dafydd yn disgrifio'r gwaith wrth draddodi'r feirniadaeth fel "cyfansoddiad gorffenedig" a "chanmoladwy" yn arddangos y tair C yr oedd y beirniaid yn chwilio amdanynt; Cymhelliad, Crefft a Chyflwyniad.

Dywedodd i'r gyfres o ddawnsfeydd a gyfansoddodd Mared gael eu saern茂o'n ofalus a chrefftus.

"Credwn y gallai'r darnau hyn fynd i'r wasg yn eu cyflwr presennol ac y bydden nhw'n gyfraniad gwerthfawr i repertoire y delyn," meddai.

Myfyrwraig ydi Mared yn dilyn cwrs doethuriaeth mewn perfformio telyn a chyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor ac er nad yw wedi penderfynu hyd yn hyn pa lwybr fydd i'w gyrfa unwaith y bydd wedi cwblhau'r gwaith dywedodd mai ei dymuniad yw ymwneud 芒'r maes cerddorol.

Mae ei hwyneb yn un cyfarwydd i fynychwyr Eisteddfod yr Urdd wedi cystadlu'n gyson ar ganu'r delyn a'r piano gan ennill yn 2008 ar yr Unawd Offerynnol dan 25 oed a thrwy hynny fod yn un o gystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Yn wreiddiol o Langernyw mae cartref Mared a'i theulu yn awr yn Eglwysbach, Dyffryn Conwy, a hithau yn aelod o Aelwyd yr Urdd, Llanrwst.

Dywedodd bod ganddi ddiddordeb arbennig mewn cerddoriaeth ond mewn cywair arall hollol wahanol mae hefyd yn dilyn pencampwriaethau tenis.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.