08 Mehefin 2012
Mae dau o bobl ifanc Cymru wedi bod yn siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd am eu cynnwrf o gael eu dewis i fynd ar daith i Batagonia yn yr Ariannin i hybu'r iaith Gymraeg yno.
"Rydyn ni'n mynd allan i hybu'r iaith ym Mhatagonia ac am wneud hynny ymysg y bobl ifanc yno," meddai Sian Elin Williams o Ysgol Llambed.
"Rydyn ni hefyd yn mynd yno i wneud gwaith gwirfoddol, ac eisiau dangos ein bod ni, bobl ifanc yn gallu gwneud hynny, yn ogystal 芒 phobl h欧n."
Ychwanegodd Guto Rhys Harries o Ysgol y Preseli Crymych: "Mae llawer o bobl h欧n yn mynd allan yno, ond rydyn ni eisiau dangos bod yr iaith yn fyw ymysg yr ifanc.
"Hoffwn i brofi'r wefr o fedru teithio miloedd o filltiroedd a siarad iaith fy mamwlad. Rydw i'n edrych ymlaen at gael gweld diwylliant gwahanol a chael gweld yr hen ffordd Gmreig o fyw allan yno," meddai.
Un arall sydd wedi ei dewis ydy Efa Dafydd o Ysgol Maes yr Yrfa. Dywedodd: "Bydd gweld mwy o bobl yn siarad yr iaith yn rhoi gobaith i mi, ac yn rhoi'r gallu i mi ddangos i bobl eraill ar 么l dod adref bod pwrpas i'r iaith. Mi fyddwn i hefyd yn hoffi gweld sut mae pobl Patagonia yn byw a sut mae eu bywydau yn wahanol i ni."
Mae 21 o ddisgyblion wedi eu dewis i gyd, ar y cyd gan Urdd Gobaith Cymru a Mentrau iaith Cymru, i fynd ar y daith a fydd yn digwydd rhwng 24 Hydref a 6 Tachwedd 2012, ac mae disgwyl i'r bobl ifanc godi 拢2,000 yr un trwy weithgareddau lleol i gyfrannu at y costau.
Mae llawer o'r arian eisoes wedi ei godi meddai Sian Elin drwy gynnal boreuau coffi, cyngherddau a golchi ceir.
Rhwng r诺an a dyddiad y daith bydd y criw yn cyfarfod ddwy waith, er mwyn dod i adnabod ei gilydd yn well - y tro cyntaf yng Ngwersyll Caerdydd am sesiynau torri'r garw a chanllaw ar sut i arwain sesiynau adeiladu t卯m allan yn y Wladfa, a'r ail mis Medi yng nghanolfan yr Urdd ym Mhentref Ifan i fynd trwy'r trefniadau terfynol.
Y 21 person ifanc fydd yn mynd ar y daith yw: Catrin Williams, Catrin Cox, Luned Phillips a Anna Powys o Ysgol Plasmawr, Caerdydd; Ioan Williams, Rhun Dafydd, Bethany Hawkins a Harri Forest Davies o Ysgol Bro Morgannwg, Y Barri; Cerys Harries, Guto Rhys Harries a Hanna Thomas o Ysgol y Preseli, Crymych; Freyer Howells a Sian Roberts o Ysgol Llanfyllin, Powys; Martha Rhys a Efa Dafydd o Ysgol Maes yr Yrfa, Cwm Gwendraeth; Eira Evans a Meleri Morgan o Ysgol Tregaron; Catrin Raymond o Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun; Sioned Evans o Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin; Sian Elin Williams o Ysgol Llambed; Sophie Ann Nicholls o Ysgol Gyfun Llanhari, Rhondda Cynon Taf.
Dyma fydd y bumed flwyddyn i'r Urdd a Mentrau Iaith Cymru gydweithio yn trefnu'r daith hon i Batagonia, gyda chymorth swyddogion y Fenter Iaith ym Mhatagonia.
Y ddau swyddog sydd wedi eu cyflogi allan yno yw Lois Dafydd a Iwan Madog, a nhw sy'n gyfrifol am drefnu gweithgareddau i'r bobl ifanc eu gwneud tra ym Mhatagonia.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r bobl ifanc wedi cael cyfle i wneud gweithgareddau megis ail-beintio ysgolion, helpu mewn ysgolion meithrin a chystadlu yn Eisteddfod y Wladfa.
Yn 么l Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Rydym yn hynod o falch fel mudiad o allu rhoi cyfleoedd a phrofiadau gwahanol i aelodau'r Urdd. Mae hwn yn gyfle gwych iddynt brofi diwylliant unigryw Patagonia, a dysgu am hanes chwedlonol y wlad. Rydym yn falch o allu cyd-weithio gyda Mentrau Iaith Cymru a Menter Iaith Patagonia i gynnig y cyfle unigryw hwn i bobl ifanc Cymru."