Bydd dysgwr o ardal Dyffryn Nantlle yn cael ei gwobrwyo, neu ei wobrwyo, am y gwaith caled mae wedi ei wneud i ymdrechu i ddysgu Cymraeg i oedolion ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth.
Bydd y seremoni Dysgwr y Dyffryn yn cael ei chynnal yn y Cwtsh Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd i ddathlu llwyddiant dysgwyr Cymraeg i Oedolion yn yr ardal.
Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu gwaith y gymuned leol i groesawu dysgwyr i'w gweithgareddau.
Bydd y seremoni yn cychwyn am 12.45 - 1.45 a phaned a cacen ar gael. Yr arweinydd fydd Nia Parry a bydd adloniant gan Lleisiau Mignedd.