大象传媒

Meriel Parry, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith, Alun Ffred Jones, A.C Arfon a Dr Ian Rees, Pennaeth Coleg Meirion Dwyfor yn torri'r dywarchen gyntaf.

Torri'r dywarchen gyntaf yng Nglynllifon

20 Ebrill 2012

Wrth godi'r dywarchen gyntaf ar faes Eisteddfod Eryri 2012 yng Nglynllifon, cyfeiriodd Alun Ffred Jones at bwysigrwydd cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod ym mywydau pobl ifanc.

"Mae ennill a cholli mewn eisteddfod yn ddigwyddiadau pwysig - yn gerrig milltir ym mywydau pobl ac yn eu datblygiad," meddai'r Aelod Cynulliad dros Arfon wrth gyfeirio at ddyddiau cynnar ei gysylltiad 芒'r 诺yl, dros 45 o flynyddoedd yn 么l.

"Bydd Eisteddfod yr Urdd 2012 yn gyfle i weld talentau gorau Cymru ar y llwyfan yng Nglynllifon ac yn gyfle i ymfalch茂o yn ein Cymreictod ac yn nhalentau ein pobl ifanc," ychwanegodd.

Mynyddoedd Eryri

Bydd yn cymryd chwech wythnos i gael y safle ar gaeau Coleg Meirion Dwyfor yn barod ar gyfer y 100,000 o ymwelwyr a ddisgwylir yn ystod wythnos yr Eisteddfod, 4 - 9 o Fehefin.

Bydd y tracfyrddau yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos gyntaf, a'r ffensys a'r swyddfeydd yn ystod yr ail a'r drydedd wythnos. Yna, erbyn y bedwaredd wythnos o waith (dechrau mis Mai), mae disgwyl y bydd y pafiliwn ar ei draed.

Dywedodd Aled Si么n, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Dyma'r ail dro i'r Eisteddfod ymweld 芒 Glynllifon gan mai yma oedd cartref yr Eisteddfod n么l yn 1990 hefyd. Mae'n safle prydferth iawn, gyda mynyddoedd Eryri yn cynnig cefnlen odidog. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu y 100,000 disgwyliedig i'n digwyddiad cenedlaethol."

Ar 21 Mai, bydd y Ganolfan Groeso yn agor, ac yn gwerthu tocynnau dydd a thocynnau ar gyfer y cyngherddau nos o'r safle. Bydd cynnig arbennig ar gyfer teuluoedd eto eleni ar y dydd Sadwrn, pan fydd oedolion yn cael mynd i mewn i'r maes 2 am bris 1, a phlant am ddim.

Cadarnhaodd Aled Si么n fod g诺yl 2012, sy'n cynnwys y dalgylch o Ynys Enlli hyd at Abergwyngregyn ac o Fangor at Borthmadog, mewn sefyllfa arbennig o dda yn ariannol a bod y nawdd wedi bod yn rhagorol.

"Rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn o'r bobl frwdfrydig sydd ar y pwyllgor gwaith dan arweiniad y cadeirydd, Meriel Parry, a'r hufen ar y gacen yw'r bobl leol a'r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio'n galed."

'Twll yn y wal'

Cynhelir yr eisteddfod ar dir Coleg Meirion-Dwyfor, un o bartneriaid a noddwyr yr 诺yl. Er mwyn gwella mynediad at faes yr Eisteddfod, mae'r coleg wedi caniat谩u i'r Urdd dorri twll enfawr yn wal adnabyddus Glynllifon. Drwy'r fynedfa hon y bydd ymwelwyr 芒'r 诺yl yn dod, ac nid drwy'r bwa enwog sydd wrth fynedfa arferol Coleg a Pharc Glynllifon.

Dywedodd Ian Rees, Pennaeth Coleg Meirion Dwyfor "Roedden ni wrth ein boddau pan benderfynodd y pwyllgor lleol leoli yma wedi toriad o 20 mlynedd a mwy ers y tro diwethaf.

"Rydym yn falch iawn o groesawu Eisteddfod yr Urdd yn 么l i Lynllifon. Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop ac rydym yn edrych ymlaen i fod yn rhan ohoni eleni. Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd y safle yn datblygu dros yr wythnosau nesaf."


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.