大象传媒

Arwel Rhys Williams yn dathlu gyda'i deulu ar faes y Steddfod

Tlws y Cerddor am swyn yr alarch

Prif seremoni gyntaf yr Eisteddfod

Elyrch Kingston yn ysbrydoliaeth

Elyrch ar yr afon yn Kingston-on-Thames ysbrydolodd y gerddoriaeth a enillodd Dlws y Cerddor i Arwel Rhys Williams 21 oed o Lanelli.

Yn fyfyriwr prifysgol yno dywedodd iddo gyfansoddi'r darn pedwar munud, Antur yr Alarch i biano a ffliwt yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth ar 么l bod yn gwylio'r elyrch yn nofio ar yr afon.

Gyda'r Tlws

Defnyddiodd ddau offeryn i gyfleu diwrnod yn hanes yr aderyn gosgeiddig.

Hwn oedd y tro cyntaf i'r myfyriwr sydd yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu gystadlu am Dlws y Cerddor yn Eisteddfod yr Urdd.

"Yr oedd yn deimlad ffantastig bod ar y llwyfan a chlywed y darn yn cael ei chwarae. Dyna'r peth gorau all ddigwydd i gyfansoddwr, clywed ei waith yn cael ei berfformio," meddai wedi'r seremoni i'w urddo 芒'r tlws.

Dywedodd Robert Arwyn a oedd yn beirniadu gydag Owain Llwyd fod tair ymgais yn sefyll allan o blith y deg a ddaeth i law.

Disgrifiodd yr ail ymgeisydd, Ieuan Wyn o Aelwyd yr Ynys, Sir F么n fel "llais mwyaf gwreiddiol y gystadleuaeth" ond i Arwel Rhys Williams y dyfarnwyd y wobr am "gyfanwaith darluniadol llawn dychymyg" a oedd y mwyaf "caboledig" yn y gystadleuaeth.

Gyda Robat Arwyn

Daw Arwel o deulu sy'n ymddiddori mewn cerddoriaeth.

"Yr oedd Mam yn canu'r organ, mae'n chwaer yn canu'r ffliwt ac roedd fy nhad yn canu'r trymped pan yn fach," meddai.

Ond dim ond ef sy'n meddwl gwneud gyrfa o gerddoriaeth gan ddweud ei fod yn gobeithio canolbwyntio ar gyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu.

Wedi ei addysgu yn ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol y Strade, Llanelli, bu Arwel yn astudio cerddoriaeth yn y brifysgol ym Mangor lle cafodd un o'i gyfansoddiadau eu perfformio gan Gerddorfa Gymreig y 大象传媒.

Mae'n canu'r piano, sacsaffon soprano, yr organ a'r acordion.

Bu'n gyfeilydd C么r Meibion Dinefwr, Llandeilo, am ddwy flynedd.

Ar hyn o bryd mae'n dilyn ei gwrs meistr ym Mhrifysgol Kingston, Llundain.

Ei obaith yw y bydd ennill yn yr Urdd eleni "yn agor drysau" iddo.

Eleni oedd y tro cyntaf i seremoni Tlws y Cerddor gael ei chynnal ar un o brif ddiwrnodau yr Eisteddfod. Enillodd y seremoni ei lle ymhlith y prif seremoniau eraill wedi i'r Urdd ddileu cystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth arferai gael ei dyfarnu ar y Llun.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.