Cwyno am gefnogaeth Caerdydd
Prys Edwards yn trafod ei salwch a diffyg cefnogaeth ariannol gan Gaerdydd i Eisteddfod yr Urdd
Mae Llywydd Anrhydeddus yr Urdd wedi dweud ei bod yn bosib na fydd Eisteddfod y mudiad byth yn medru dychwelyd i brifddinas Cymru ar 么l y flwyddyn nesaf
Wrth gael ei holi ar raglen radio Dewi Llwyd ar 大象传媒 Radio Cymru fore Sul cyhuddodd Prys Edwards Gyngor Dinas Caerdydd o fod yn llugoer tuag at Eisteddfod 2009 sydd i'w chynnal yno.
Gan fynegi ei siom o weld y diffyg nawdd o gyfeiriad Dinas Caerdydd i Eisteddfod yr Urdd 2009 dywedodd y gall sefyllfa godi lle na bydd yr Eisteddfod fyth eto yn gallu ymweld 芒 phrifddinas Cymru.
"Ar hyn o bryd does gennym ni ddim ceiniog o nawdd i'r Steddfod," meddai.
"Dydi Dinas Caerdydd ddim wedi rhoi ceiniog tuag at brif 诺yl ieuenctid Ewrop sydd yn y Brifddinas.
"Dwi'n gwybod yn iawn ei bod yn cefnogi yr Eisteddfod Genedlaethol [ond] y gwir amdani ydi yr ydym yn wynebu penderfyniad falle na fyddwn ni byth eto o ran Eisteddfod yr Urdd yn mynd i Brifddinas Cymru," meddai.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymateb fodd bynnag trwy ddweud iddo gefnogi Eisteddfod yr Urdd ar y ddau achlysur iddi ymweld 芒'r Brifddinas yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
"Y mae hyn wedi cynnwys cefnogaeth ariannol hael a chefnogaeth ymarferol arall," meddai llefarydd ar ran y cyngor.
Ychwanegodd fod y Cyngor hefyd yn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n ymweld 芒 Chaerdydd fis Awst eleni.
"Ac er y byddai'r Cyngor yn hoffi cefnogi Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf nid yw ein cyllideb yn ddibendraw," meddai.
Ymladd salwch gyda ffydd
Yn ystod y cyfweliad bu Mr Edwards yn s么n hefyd am y tro cyntaf yn gyhoeddus sut y mae'n dygymod a chyflwr difrifol clefyd Parkinson a'r effaith a gafodd y salwch ar ei safbwynt crefyddol.
Dargelodd sut y bu darganfod ei fod yn dioddef o glefyd Parkinson yn fodd i gryfhau ei ffydd.
Mae ei frawd, Owen, yn dioddef o'r un cyflwr hefyd.
"Yn ddiweddar dwi di cael gwybod bod gen i glefyd Parkinson ac mae ffydd wedi dod yn beth pwysig iawn yn fy mywyd i," meddai wrth Dewi Llwyd.
"Roedd ffydd yn bwysig pan oedd y plant yn tyfu fyny, ffydd Gristnogol - dwi ddim wedi troi nghefn arno fe - ond dwi ddim wedi gweld ei bwysigrwydd tan yn ddiweddar a r诺an er mwyn wynebu'r gofid yma, mae person yn troi at ffydd ac yn teimlo, o weithio ar y ffydd yma, mi gai'r clefyd dan reolaeth.
"Felly dwi wedi troi yn ddiweddar i wedd茂o ac i ddiolch am bopeth."
Mae hefyd wedi troi at help therapi cyflawn yn hytrach na chyffuriau gan obeithio y bydd hyn, yn ogystal a'i ffydd, yn ei alluogi i'w orchfygu.
Er ei fod bellach wedi ymddeol o swydd gweithredol gyda'r Urdd mae ei frwdfrydedd am y mudiad a'r Eisteddfod yn dal yn amlwg.
"Pan mae rhywun yn gweld 15,000 o blant yn dod i faes yr Eisteddfod ac yn mwynhau eu hunain yn cystadlu, dwi wrth fy modd," meddai.
"Pan chi'n meddwl amdano fe, mae 45,000 o blant yn cymryd rhan mewn eisteddfodau sir a chylch a'r Eisteddfod Genedlaethol... Dyna'r sioe dalent fwyaf ym Mhrydain Fawr. Dyw pobol ddim yn sylweddoli hynny wrth iddyn nhw weld yr X-Factor ac yn y blaen, a gweld Gethin a Rhydian a Connie Fisher - maen nhw i gyd wedi cychwyn ar lwyfannau Steddfod yr Urdd a does na ddim byd tebyg i'w gael ym Mhrydain Fawr nac yn unrhyw le arall yn y byd," meddai.
Bu hefyd yn trafod sut y gw锚l ef y berthynas rhwng twristiaeth a diwylliant Cymru a'r Gymraeg.
Bydd y cyfweliad i'w glywed hefyd ar safle Radio Cymru ar y we ar bbc.co.uk/radiocymru gan ddewis Rhaglen Dewi Llwyd yn Radio ar Alw.