Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
S4C: 'Gwylwyr yn gweld toriadau'
Bydd gwylwyr yn gweld effaith toriadau ariannol i S4C ar y sgrin - dyna rybudd Gweinidog Traftadaeth a Diwylliant Cymru.
Dywedodd Huw Lewis AC y byddai colli swyddi yn y diwydiant yn anorfod o ganlyniad i doriadau yng nghyllideb y darlledwr.
Yn ystod dadl yn y Senedd, dywedodd wrth ACau fod llywodraeth Cymru yn croesawu'r cytundeb rhwng S4C a'r 大象传媒.
Mae hynny'n sicrhau cyllid hyd at 2017, ac yn caniat谩u i'r 大象传媒 gael dewis aelodau o awdurdod y sianel.
Dywedodd Mr Lewis fod arian gan lywodraeth y DU i'r sianel yn cael ei gwtogi o 拢102 miliwn eleni i 拢75m yn 2015.
Byddai'r gwasanaeth y mae'r sianel yn darparu yn weledol wahanol o ganlyniad, meddai Mr Lewis.
"Mae'r lefel o doriadau sydd wedi eu gorfodi gan San Steffan yn trosglwyddo yn y pen draw i lefel y gwasanaeth y bydd gwylwyr yn ei weld ar y sgrin, ac fe fydd gwasanaeth llai cyflawn mewn un ffordd neu'r llall nag sydd wedi cael ei ddarparu tan yn ddiweddar," meddai.
Ychwanegodd fod y cyhoeddiad y bydd cwmni Boomerang yn torri 20 o swyddi o ganlyniad i doriadau yn y 大象传媒 ac S4C yn arwydd o'r hyn sydd i ddod, a bod colledion pellach yn y diwydiant "yn anorfod".
'Annibyniaeth'
Yn y dyfodol, bydd mwyafrif cyllideb y sianel yn dod o ffi'r drwydded deledu, a dywedodd Mr Lewis fod cytundeb gyda'r 大象传媒 yn gwarchod "annibyniaeth golygyddol a rheolaeth S4C".
Defnyddiwyd y ddadl yn y Senedd gan AC Plaid Cymru, Bethan Jenkins, i alw am ddatganoli darlledu i Fae Caerdydd.
Mae canoli grym yn "hen ffasiwn" ac "aneffeithiol" meddai.
Dywedodd yr AC Ceidwadol Suzy Davies y gellid cydymdeimlo gyda'r ddadl datganoli pe bai S4C ddim ond yn ffordd o hybu'r iaith Gymraeg.
"Ond nid dim ond arf i hybu'r iaith Gymraeg yw S4C," meddai. "Mae'n ddarlledwr gyda'r gallu i fod yn fwy na hynny.
Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts: "Efallai bod yr holl drafodaethau yn San Steffan wedi dangos nad yw dyfodol S4C yn ddiogel yn nwylo gwleidyddion yn Llundain."