Prifwyl: Cadarnhau colled o 拢90,000

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Aeth 149,692 i'r Eisteddfod yn Wrecsam eleni

Yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn cadarnhawyd bod Prifwyl Wrecsam a'r Fro wedi gwneud colled ariannol o 拢90,000.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Bu'n flwyddyn anodd i'r Eisteddfod fel cynifer o sefydliadau eraill, oherwydd hinsawdd economaidd y wlad.

"Cafodd hyn effaith ar incwm tocynnau cyngherddau, stondinau a nawdd corfforaethol, a thrwy hynny, gwnaethpwyd colled o 4% eleni.

"Llwyddwyd i reoli gwariant yr Eisteddfod ac unwaith eto eleni nid yw'r golled yma'n arwydd o unrhyw gamreoli gwariant.

"Neithiwr rhoddodd y Bwrdd Rheoli s锚l bendith i 拢200,000 o arbedion ac mae'r T卯m Rheoli'n gweithio ar y manylion ar hyn o bryd.

'Gwarchod'

"Yn ddi-os, bydd newidiadau o 2012 ymlaen, gyda nifer o'r rhain yn newidiadau gweledol, ond y prif amcan yw gwarchod gweithgareddau diwylliannol y Brifwyl a diogelu staff."

Cyhoeddwyd adroddiad Eisteddfod Wrecsam a'r Fro ar wefan yr Eisteddfod.

Ddydd Gwener dywedodd cyn-Weinidog Treftadaeth Cymru ei bod hi'n anodd rhagweld sut mae modd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ariannol.

Daeth sylwadau Alun Ffred Jones ar 大象传媒 Radio Cymru ddiwrnod wedi newyddion bod y Brifwyl yn Wrecsam eleni wedi gwneud colled.

Y llynedd fe wnaeth Eisteddfod Blaenau Gwent golled o 拢47,000 ond rhwng 2006 a 2009 fe wnaeth yr 诺yl elw.

Ar y Post Cyntaf fore Gwener dywedodd Mr Jones ei fod a phawb arall yn gwerthfawrogi'r hyn yr oedd yr Eisteddfod yn ei gynnig i bobl Cymru.

Ymdrechion pobl leol

"Ond all yr Eisteddfod ddim parhau fel y mae.

"Dwi'n si诺r bod hyn (y golled) yn bryder i awdurdodau'r Eisteddfod a phawb sy'n poeni am les y Brifwyl."

Er hynny, meddai, roedd sawl agwedd ar Eisteddfod Wrecsam yn llwyddiannus.

"Wrth edrych ymlaen at y tymor canolig mae 'na gwestiynau sylfaenol yngl欧n 芒 all yr Eisteddfod barhau yn ei ffurf bresennol.

"Efallai ein bod yn wynebu cyfnod o bedair, pump neu 10 mlynedd hwyrach lle bydd arian cyhoeddus yn brin a lle bydd pobl 'efallai' yn edrych yn ofalus lle maen nhw'n gwario arian ac mae cwmn茂au yn edrych yn ofalus ar y nawdd.

"Dydi'r amgylchiadau ddim yn ffafriol."

'Dilema'

Dywedodd nad ei le oedd awgrymu pa newidiadau y dylai'r Eisteddfod eu gwneud ond yn sicr "os ydach chi'n cadw'r Eisteddfod fel y mae, mae 'na gostau sylfaenol ynghlwm wrthi hi".

"Y cwestiwn yw gwario'r arian yn fwy ar gontractwyr a gosod y Maes nag ar yr hyn sy'n sylwedd sef y diwylliant," meddai.

"Ond os ydach chi'n tynnu'r Maes, yna does 'na ddim canolbwynt i'r digwyddiad, dim lle, man cyfarfod i'r Cymry.

"Mae'n ddilema.

"Dwi ddim yn meddwl y bydd yr Eisteddfod yn newid yn y blynyddoedd nesa ond dwi ddim yn gweld nad oes 'na ddewis ond gwneud newidiadau pellgyrhaeddol yn y dyfodol."

拢493,000

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr Eisteddfod wedi derbyn cymhorthdal o 拢493,000 ar gyfer 2011-12 drwy law Bwrdd yr Iaith.

Hefyd fe roddwyd 拢25,000 ar gyfer cynllun oedd yn caniat谩u i'r Eisteddfod gynnig 10,000 o docynnau am bris gostyngedig.

Ychwanegodd Mr Jones nad oedd yn credu bod 'na beryg i'r nawdd yn y tymor byr na'r tymor canolig.

"Yn amlwg, dydi'r nawdd ddim yn ddigon i sicrhau llwyddiant ariannol.

"Os oes 'na bethau eraill yn cael eu colli fel nawdd cwmn茂au, yna fe fydd yn wynebu'r un sefyllfa flwyddyn ar 么l blwyddyn."