Ysbyty: Cannoedd mewn cyfarfod

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 news online

Disgrifiad o'r llun, Yn ddiweddar, cyhoeddodd y bwrdd eu bod yn adolygu gwasanaethau

Daeth dros 500 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth nos Wener i glywed am newidiadau posib i wasanaethau yn ysbyty Bronglais.

Mae pobl leol a staff yr ysbyty wedi mynegi pryder y gallai gwasanaethau gael eu symud o'r ysbyty a'u canoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gyfrifol am wasanaethau ym Mronglais, yn dweud nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw benderfyniadau hyd yn hyn - ond roedd siom yn y cyfarfod neithiwr nad oedd neb o'r Bwrdd Iechyd yn bresennol.

Ddydd Gwener, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, fod yn rhaid i Fwrdd Iechyd Hywel Dda wrando ar feddygon a chymunedau lleol wrth gynllunio newidiadau i wasanaethau.

Yr wythnos diwethaf daeth i'r amlwg fod 50 o feddygon ymgynghorol ac arbenigwyr o Ysbyty Bronglais wedi arwyddol llythyr yn dweud eu bod wedi colli hyder yn y Bwrdd Iechyd.

Gwrando

Mewn llythyr at brif weithredwr y bwrdd, Trevor Purt, f ddywedon nhw nad oedden nhw'n credu bod y bwrdd iechyd wedi "ymrwymo'n llwyr" i gefnogi'r ysbyty wrth ddarparu gwasanaethau'n lleol.

Daeth sylw Mrs Griffiths, Gweinidog Iechyd Cymru, oriau cyn y cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth.

Dywedodd Mrs Griffiths ei bod yn disgwyl i swyddogion wrando ar feddygon a chymunedau lleol wrth gynllunio newidiadau i wasanaethau.

Mewn ymateb i'r llythyr gafodd ei anfon i'r bwrdd, dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad a Chyflenwi Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Tony Chambers: "Rhaid i'n gwasanaethau ni gydymffurfio 芒 safonau diogelwch ac ansawdd ac ni fyddem yn ystyried cynigion anniogel."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi siarad 芒 chadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Chris Martin, i ailadrodd ei disgwyliadau fod y bwrdd iechyd yn mynd i wrando ar feddygon a chymunedau lleol wrth gynllunio newidiadau i wasanaethau."

Mae'r bwrdd wedi bod yn adolygu gwasanaethau, gan gynnwys uned ddamweiniau Ysbyty Bronglais, Ysbyty'r Tywysog Philip, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Llwynhelyg.

O Aberystwyth a'r cyffiniau yr oedd mwyafrif y rhai a oedd yn y cyfarfod - ond roedd rhai wedi teithio o dde Gwynedd ac o Bowys hefyd.

Pwysleisiodd y Bwrdd Iechyd nad yw wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto a'u bod ar ganol ymarferiad gwrando ac ymgysylltu, ac y byddai cyfnod o ymgynghori yn dilyn.

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn bwriadu arwain dirprwyaeth i'r Senedd ar Chwefror 29.