大象传媒

Rhybudd y BMA i fyrddau iechyd 'beidio 芒 mynd i banig'

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gymdeithas Feddygol wedi cyhuddo byrddau iechyd Cymru o "fynd i banig" wrth geisio arbed arian a chyflwyno newidiadau.

Daw hyn ar 么l pryderon am saith ysbyty yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd wedi cau unedau dros dro.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wynebu mwy o doriadau nag unrhyw le arall yn y DU ac mae'r penderfyniad i gau unedau dros dro yn bodoli hyd nes diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

O ganlyniad i gau wardiau ar draws Cymru mae'n golygu bod cleifion yn gorfod teithio ymhellach ar gyfer triniaeth ddyddiol.

Cafwyd nifer o brotestiadau ar draws Cymru dros yr wythnosau diwethaf yn gwrthwynebu'r cau.

Un o'r cymunedau sydd wedi ei heffeithio yw Pen Ll欧n.

Gwasanaeth cynaliadwy

Ym mis Ionawr roedd cannoedd yn protestio wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gau ward yn Ysbyty Bryn Beryl.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Protestwyr am weld pob ward yn Ysbyty Bryn Beryl ar agor

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi pwysleisio mai rhywbeth dros dro ydi hyn, er mwyn ymdopi 芒 phwysau'r gaeaf ac maen nhw dan bwysau i beidio 芒 gorwario ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod nhw'n cydweithio gyda meddygon i greu gwasanaeth sy'n ddiogel a chynaliadwy - ond bod rhaid i fyrddau iechyd fyw o fewn eu cyllidebau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol