Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pensiynwyr 'ar eu colled'
Mae'r Comisiynydd Pobl H欧n wedi dweud y bydd pensiynwyr 'ar eu colled' oherwydd newid y lwfans treth gyhoeddwyd yn y gyllideb.
Dywedodd Ruth Marks y byddai pobl oedrannus yn poeni am gynnydd mewn costau byw.
Roedd y Canghellor, George Osborne, wedi dweud na fyddai unrhyw bensiynwr yn diodde yn nhermau arian parod.
Ond dywedodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi y byddai 4.4m o bobl yng ngwledydd Prydain yn colli 拢83 ar gyfartaledd mewn termau real erbyn 2013-14.
O Ebrill 2013 ymlaen bydd y swm y bydd pensiynwyr yn cael ei ennill yn ddidreth yn cael ei rewi.
Dywedodd Ms Marks: "Oherwydd y cynnig fe fydd y rhai sy wedi cynilo'n galed ar gyfer eu hymddeoliad yn talu 拢259 yn fwy o dreth bob blwyddyn hyd yn oed os yw'r incwm yn 拢10,500.
'Anodd'
"Yn aml, mae pobl oedrannus yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd i dalu biliau a chadw'n dwym ... yn ystod cyfnod economaidd anodd.
"Y broblem yw y bydd mwy o galedi yn y dyfodol oherwydd cynnydd mewn costau bwyd a thanwydd."
Ynghynt honnodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, y byddai cyflog rhanbarthol yn "achosi rhwyg cymdeithasol".
Gallai rhai adrannau Llywodraeth y DU ddechrau talu cyflog rhanbarthol i'w staff pan mae cyfnod rhewi eu cyflogau yn dod i ben eleni.
Mae'r adrannau hyn yn cynnwys Yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r DVLA.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn erbyn y cynllun gafodd ei gyhoeddi yn Araith y Gyllideb.
'Rhannu'
Dywedodd Ms Hutt: "Nid yw'r cynllun yn gwneud synnwyr economaidd oherwydd y bydd yn tynnu mwy o arian allan o'r economi.
"Nid yw'r cynllun yn gwneud synnwyr cymdeithasol. Y gwir yw bydd y cynllun yn rhannu gweithlu allweddol ein gwasanaethau cyhoeddus."
Yn yr hydref gofynnodd Mr Osborne i gyrff adolygu cyflogau annibynnol gyflwyno adroddiad erbyn yr haf am y posibilrwydd o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn "ymateb yn well i farchnadoedd llafur lleol".
Yn 么l y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yng Nghymru mae'r bwlch mwyaf rhwng cyflogau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.