Gr诺p newydd i fonitro teledu

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Sianel yn wynebu gostyngiad yn ei chyllideb

Fe fydd rhagor o graffu ar y berthynas rhwng S4C a'r 大象传媒 yn dilyn y cyhoeddiad bod cynghrair newydd yn cael ei ffurfio gan undebau a mudiadau iaith.

Daeth y gr诺p i fodolaeth yn sgil y bartneriaeth ymgyrchu a ffurfiwyd yn ystod y frwydr yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C.

Bwriad y gr诺p newydd yw parhau i amddiffyn S4C a'i hannibyniaeth yn ogystal 芒 goruchwylio safon y diwydiant teledu yng Nghymru.

Mae aelodau'r gr诺p yn cynnwys yr undeb BECTU, Undeb yr Ysgrifenwyr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

'Toriadau mawr'

Dywedodd Madoc Roberts o'r undeb BECTU: "Mae'r gr诺p newydd hwn yn gyfle i gadw llygaid barcud ar safon y diwydiant teledu yng Nghymru ac i graffu a sgriwtineiddio y berthynas rhwng S4C a'r 大象传媒.

"Menter gadarnhaol yw hon, gyda'r bwriad o sicrhau fod S4C yn cynnig y ddarpariaeth gorau posibl i'w gwylwyr.

"Bydd y gr诺p yn galluogi unrhyw un sydd yn pryderu am ddyfodol darlledu yng Nghymru i godi unrhyw bryder sydd ganddynt.

"Fe wnaeth Llywodraeth Prydain addo na fyddai'r 大象传媒 yn traflyncu S4C ac na fyddai'r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr yn gwneud niwed i safon cynhyrchu yng Nghymru.

"Mae'r ddau ddarlledwr yn wynebu toriadau mawr felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar safon y cynyrchiadau."

Y llynedd cyhoeddodd y Sianel fod 29 o aelodau staff i adael eu swyddi o dan gynllun diswyddo gwirfoddol y Sianel.

Mae'r Sianel yn wynebu gostyngiad yn ei chyllideb o 24% dros bedair blynedd o ganlyniad i doriadau Llywodraeth San Steffan.

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn y mwyafrif o'i chyllid drwy grant oddi wrth y llywodraeth oedd yn 2009-10 werth tua 拢100 miliwn.

Fel rhan o'r o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd cyhoeddwyd hefyd y byddai'r 大象传媒 yn bennaf gyfrifol am ariannu'r Sianel ar 么l 2013.

'Dyfodol yn ansicr'

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod pryderon am y sianel o hyd: "Drwy ein hymgyrch llynedd fe wnaethom sicrhau fod rhyw fath o ddyfodol i'r sianel ond mae ei dyfodol yn ansicr o hyd."

Mae Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar newidiadau i strwythur a chylch gorchwyl y ddau ddarlledwr.

Dywedodd Roger Williams ar ran Undeb yr Ysgrifenwyr: "Yn ystod yr holl drafodaethau roedd Llywodraeth Prydain a'r 大象传媒 yn barod iawn i argyhoeddi pawb nad oedd bygythiad i annibyniaeth S4C felly yn ystod y cyfnod ymgynghori ar ddyfodol S4C, byddwn yn weithredol wrth sicrhau fod y llywodraeth yn cadw at yr addewidion y gwnaeth yngl欧n 芒'r berthynas rhwng y 大象传媒 ac S4C ac na fydd y berthynas honno yn amharu ar allu S4C i weithredu yn annibynnol."

Cynhelir cyfarfod cyntaf y gr诺p craffu newydd - S4Craffu - ar Ebrill 18.