Archesgob: 'Angen cefnogi pobl hoyw'

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Mynnodd Dr Barry Morgan fod rhaid i'r eglwys drafod y mater

Yn 么l Archesgob Cymru, rhaid i Gristnogion ddangos sut y mae Efengyl Iesu yn newyddion da i bobl hoyw.

Wrth annerch cynhadledd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn Llandudno, dywedodd y Dr Barry Morgan ei fod yn poeni am fuddiannau pobl hoyw ac yn ofni y gallan nhw deimlo na fyddai croeso mewn eglwysi pan fydd cynigion y llywodraeth am briodas unrhyw yn cael eu trafod.

Ychwanegodd fod perthynas unrhyw yn bwnc moesol oedd yn wynebu'r Eglwys a'r byd ac nad oedd safbwynt Cristnogol clir.

Eto, meddai, dylai'r Eglwys gynnig ofal bugeiliol a chefnogaeth i bobl hoyw.

'Codi cwestiynau'

"Y mae ymgynghoriad y Llywodraeth ar briodas sifil yn codi nifer fawr o gwestiynau diwinyddoI i'r eglwys.

"Fy mhryder ar hyn o bryd yw y gall unrhyw drafodaeth ar y pwnc roi'r argraff unwaith eto i bobl hoyw nad oes gan yr eglwys ofal amdanynt na chydymdeimlad 芒 hwy.

"Fe all rhai sylwadau dros y misoedd nesaf niweidio pobl yn fawr o safbwynt bugeiliol. I'r pwnc bugeiliol hwnnw yr ydw i am roi sylw".

Dywedodd fod esgobion yng Nghymru yn glynu at yr athrawiaeth Gristnogol mai undod gwirfoddol am oes rhwng un g诺r ac un wraig oedd priodas ond eu bod yn gyt没n fod pob "perthynas ymrwymedig am oes yn haeddu croeso, gofal bugeiliol a chefnogaeth yr Eglwys" ac yr oeddent wedi ymrwymo i wrando ymhellach, i fyfyrio'n weddigar ac i geisio goleuni ar fater perthynas unrhyw.

"Dywed gwrywgydwyr a lesbiaid eu bod yn dal i gael eu trin fel dinasyddion eilradd - ar y gorau, eu goddef, ar y gwaethaf eu difr茂o.

"Trafodir gwrywgydiaeth yn aml fel pe na bai a wnelo ddim 芒 phobl go iawn - cwyn gwrywgydwyr a lesbiaid yw mai siarad amdanynt, nid siarad 芒 hwy, y mae'r Eglwys."

'Newyddion da?'

Ychwanegodd: "Y cwestiwn yw sut y gallwn fod yn ffyddlon i'r Ysgrythur a thraddodiad ac ar yr un pryd ufuddhau i alwad ehangach y Testament Newydd i garu ein cymydog?

"Os nod moesol yr Efengyl yw annog caru cymydog, sut y gall hynny ddigwydd pan wneir i bobl deimlo nad oes neb eu heisiau, nad oes neb yn eu caru, a'u bod yn pechu?

"Sut y mae'r efengyl yn newyddion da i hoywon?"

Dywedodd na allai'r Eglwys anwybyddu'r ddeddfwriaeth newydd y mae'r Llywodraeth yn ei chynnig ar briodas sifil, er na fyddai'r ddeddfwriaeth yn caniat谩u i gyplau hoyw briodi mewn eglwys.

'Amddiffyn'

Galwodd ar yr Eglwys i drafod beth fyddai ei hymateb.

"Os caiff y ddeddfwriaeth i ganiat谩u priodas sifil ei phasio," meddai, "ni allaf weld sut y gallwn ni fel eglwys anwybyddu cyfreithlondeb statws partneriaethau o'r fath, ac ni ddylem fod am wneud hynny.

"Y cwestiwn bob amser yw a fydd yr Eglwys yn amddiffyn ac yn cefnogi'n fugeiliol berthynas, o ba fath bynnag, sy'n berthynas ffyddlon, sefydlog ac am oes, er mwyn hyrwyddo gwerthoedd dynol fel cariad a ffyddlondeb, ac yn cydnabod angen Cristnogion am arwydd o gefnogaeth grefyddol gyhoeddus i'r pethau hyn?

"Mae'n drafodaeth y bydd yn rhaid inni ei chael."