Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
AS Mynwy: 'Dwi'n ymddiheuro am anallu llywodraeth'
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi ysgrifennu at bapur newydd i ymddiheuro am "anallu" Llywodraeth y DU yn San Steffan.
Dywedodd David Davies, AS Mynwy, wrth y South Wales Argus dod angen i David Cameron newid trywydd er mwyn cadw'i safle.
Ychwanegodd nad oedd y glymblaid yn gwrando ar aelodau'r meinciau cefn nac ar bleidleiswyr.
Mae Mr Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, wedi datgelu bod ei fam wedi pleidleisio i UKIP yn y gorffennol.
Yng Nghasnewydd mae hi'n byw lle enillodd Llafur reolaeth ar gyngor y ddinas yr oedd y Tor茂aid wedi ei arwain.
Collodd y Ceidwadwyr hefyd reolaeth ar Gyngor Sir Fynwy yn etholaeth Mr Davies.
'Gadael i lawr'
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol roedd nifer o benderfyniadau'r llywodraeth yn anffodus, gan gynnwys newidiadau treth yn y Gyllideb, panig wrth brynu tanwydd mewn gorsafoedd petrol a thrafferthion wrth geisio estraddodi'r clerigwr Moslemaidd Abu Qatada.
Yn ei lythyr at y papur mae Mr Davies wedi ymddiheuro "i'r rhai sy'n teimlo bod y glymblaid o dan arweiniad y Ceidwadwyr wedi eu gadael i lawr".
"Rhaid i mi gydnabod bod anallu ar lefel uchaf y llywodraeth wedi digwydd dros y misoedd diwethaf mewn nifer o adrannau.
"Yn y cyfamser, mae pwyslais ar faterion fel priodasau hoyw a diwygio T欧'r Arglwyddi ar draul egluro'r sefyllfa ariannol, methiant i estraddodi terfysgwr peryglus oherwydd pryderon am hawliau dynol, anfodlonrwydd i wrando ar bryderon pleidleiswyr a'r aelodau meinciau cefn a gafodd eu hethol i'w cynrychioli.
"Ni fyddaf yn oedi cyn mynegi fy mhryderon yn y Senedd.
"Mae angen i David Cameron newid trywydd yn fuan iawn neu fe fydd allan o'i swydd cyn bo hir."