Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhuddo'r gwrthbleidiau o chwarae 'gemau gwleidyddol'
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhuddo rhai oedd wedi galw am ei hymddiswyddiad ac wedi cwestiynu adroddiad am newidiadau i'r Gwasanaeth Iechyd o "chwarae gemau gwleidyddol".
Roedd e-byst yn dangos bod awdur yr adroddiad academaidd wedi cysylltu 芒 gweision sifil tra oedd o'n ysgrifennu'r ddogfen.
Ond mae'r gweinidog, Lesley Griffiths, yn mynnu nad oedd ganddi r么l uniongyrchol yn y trafodaethau.
Mae hefyd wedi dweud bod y broses baratoi ar gyfer yr adroddiad yn "ddi-fai".
Roedd adroddiad yr economegydd iechyd, yr Athro Marcus Longley, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn dweud bod rhai gwasanaethau mewn perygl o "ddymchwel".
Ac roedd gweinidogion wedi cyfeirio at yr adroddiad fel tystiolaeth i gefnogi'u hachos dros newidiadau dadleuol arfaethedig i ysbytai.
Ond mae 'na negeseuon e-bost wedi dod i'r amlwg ers hynny yn dangos bod yr athro'n mynegi pryderon "nad ydi'r dystiolaeth, fel y mae hi wedi ei chyflwyno, yn ymddangos mor dreiddgar ac yr oeddem yn ei obeithio".
'Rhoi min'
Mewn un neges roedd yn gofyn i gyfarwyddwr meddygol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Dr Chris Jones - sydd hefyd yn uwchwas sifil i Lywodraeth Cymru - am dystiolaeth bellach i "roi min ar ddogfen er mwyn cefnogi'r ddadl dros newid".
Cyn bo hir bydd byrddau iechyd lleol yn cyhoeddi cynigion hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd ond fe allen nhw olygu fod rhai pobl yn gorfod teithio'n bellach ar gyfer gwasanaethau.
Fe wnaeth y gweinidog ddatganiad brys yn y Senedd ddydd Mawrth wedi i'r gwrthbleidiau ymateb yn ffyrnig i'r honiadau.
"Alla' i ddim gadael i bobl chwarae gemau gwleidyddol a rhwystro llywodraethu da," meddai.
"Peidiwch 芒 chael eich twyllo, mae llywodraethu da yn golygu gwneud penderfyniadau anodd ar y Gwasanaeth Iechyd fel y bydd yn sefydliad diogel a chynaliadwy i'r dyfodol."
'Gresynus'
Ychwanegodd: "Mae rhai aelodau wedi ymddwyn mewn modd gresynus wrth wneud eu sylwadau heddiw.
"Maen nhw'n dal i geisio tynnu sylw oddi wrth y dystiolaeth glir yn yr adroddiad.
"Doedd gen i ddim byd i'w wneud yn uniongyrchol gyda llunio'r adroddiad hwn."
Mynnodd nad oedd unrhyw dystiolaeth fod swyddogion yn ei hadran hi wedi ceisio dylanwadu ar neu newid yr adroddiad.
Doedd yr e-byst ond yn dangos bod y swyddogion yn ymateb i geisiadau'r Athro Longley am wybodaeth neu gyngor ar gyflwyno'r adroddiad, meddai Mrs Griffiths.
"Rwy'n credu eu bod yn profi fod y broses baratoi ar gyfer yr adroddiad yn ddi-fai," ychwanegodd.
'Amheus'
Roedd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, wedi galw'r adroddiad yn "ddogfen amheus" ac wedi galw ar y gweinidog i ymddiswyddo os oedd hi'n gwybod am yr e-byst.
Yn 么l Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, roedd angen i'r Cynulliad wybod a oedden nhw wedi cael eu camarwain pan gyflwynodd Mrs Griffiths yr adroddiad fel un annibynnol.
Cyhuddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y Ceidwadwyr o geisio "dinistrio enw da academaidd yr Athro Marcus Longley".
Mewn trafodaeth danllyd iawn yn siambr y Senedd, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams: "Sut all y cyhoedd gael unrhyw hyder fod cynigion yn cael eu cyflwyno ar sail annibynnol ac academaidd?"
Mae'r Athro Longley wedi mynnu fod ei waith yn gwbl annibynnol.
Cafodd ei gwblhau, meddai, "yn gwbl ddiduedd a heb ddylanwad eraill".