Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy'n derbyn rhybuddion llifogydd, medd asiantaeth
Mae mwy nag erioed o eiddo yn derbyn rhybuddion llifogydd ar 么l haf gwlyb a llifogydd mewn rhannau o Gymru.
Erbyn hyn mae dros 101,000 eiddo yng Nghymru'n derbyn rhybuddion uniongyrchol o gymharu 芒 47,000 yn 2010, yn 么l ffigyrau gan Asiantaeth yr Amglychedd Cymru.
Mae gwasanaeth Rhybuddion Uniongyrchol yr Asiantaeth, sy'n rhad ac am ddim, yn anfon neges yn syth at gartrefi a busnesau os disgwylir i lifogydd o afonydd neu'r m么r effeithio ar eu heiddo.
Mae'r Asiantaeth yn annog pobl i ganfod a ydyn nhw mewn perygl ac i sicrhau eu bod wedi'u paratoi ar gyfer y gwaethaf.
Yng Ngheredigion ym mis Mehefin cafodd 150 eu hachub gan y gwasanaethau brys ac o leiaf 1,000 eu symud i fan ddiogel.
400 o eiddo
Yn ystod llifogydd y mis diwethaf yng Ngheredigion a Gwynedd, cyhoeddodd yr Asiantaeth rybuddion i bron iawn 400 o eiddo a rhoi amser i berchnogion tai amddiffyn eu cartrefu a'u heiddo rhag d诺r llifogydd.
Mae ymgyrch Ymwybyddiaeth Llifogydd yr Asiantaeth, sydd yn rhedeg ers dwy flynedd, wedi rhoi gwybod i dros 71,000 o bobl yn uniongyrchol eu bod mewn perygl llifogydd a sut y gallen nhw baratoi.
Yn ystod y cyfnod yma maen nhw wedi helpu bron i 300 o gymunedau a busnesau i baratoi Cynlluniau Llifogydd i gael gwybod beth i'w wneud pan ddaw rhybudd llifogydd.
'Newid hinsawdd'
Dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Yn ystod y llifogydd yng Ngheredigion a Phowys roedd ein hamddiffynfeydd llifogydd wedi gwarchod 455 o eiddo rhag llifogydd.
"Y mis diwethaf, cwblhawyd cynllun llifogydd arall yng Nghasnewydd a fydd yn amddiffyn 400 yn rhagor o eiddo.
"Ond, fel y gwelsom ym mis Mehefin pan gafodd bywydau cannoedd o bobl yng Nghanolbarth Cymru eu haflonyddodd gan law trwm, ni ellir byth gael gwared yn llwyr ar y perygl.
"Yn wir, mae rhagolygon newid hinsawdd yn dangos y bydd y bygythiad yma'n debyg o gynyddu yn y dyfodol.
"Dyna pam mae derbyn rhybuddion cynnar mor hanfodol i warchod chi'ch hunan a'ch eiddo rhag llifogydd."
Mae pobl sy'n ymuno i dderbyn y gwasanaeth yn gallu derbyn y rhybuddion dros y ff么n, neges testun, ffacs, e-bost neu galwr.
Gall pobl gael gwybodaeth ar neu drwy ffonio'r llinell ff么n arbennig - 0845 988 1188.