Protest yn erbyn newidiadau i Ysbyty Llwynhelyg

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae cefnogwyr yr ysbyty yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig gan y Bwrdd Iechyd

Daeth dros 60 o bobl i brotestio y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, ddydd Mercher yn erbyn bwriad y Bwrdd Iechyd i ad-drefnu gwasanaethau.

Hon oedd yr ail brotest i D卯m Gweithredu Achub Llwynhelyg ei chynnal.

Cafodd y brotest gyntaf ei chynnal ar Awst 8, ddeuddydd ar 么l i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gyhoeddi bod rhaid ad-drefnu gwasanaethau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Ond dywed protestwyr nad yw pryderon staff a chleifion wedi cael eu hystyried.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Mae'r ymgyrchwyr yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal gorymdaith ar Fedi 27 a ddaw i ben ym Mae Caerdydd.

Dywed y bwrdd nad yw'r strwythur presennol yn gallu ymdopi gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.

Mae'r Bwrdd yn son am ddarparu gwasanaethau mwy arbenigol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar gyfer babanod newydd-anedig.

Byddai hynny'n golygu cau'r uned bresennol yn Llwynhelyg, ond byddai uned famolaeth llai arbenigol yn parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd eu bod yn hefyd ofni na fyddan nhw'n gallu ymdopi a chadw safonau uchel proffesiynol heb ganoli gwasanaethau fel unedau damweiniau, gofal canser a llawdriniaeth arbenigol.

Ychwanegodd y bwrdd eu bod wedi gwrando ar bryderon lleol wrth .

Opsiwn arall fyddai lleoli'r uned newydd-anedig arbenigol yn Llwynhelyg ond cau'r uned bresennol yng Nghaerfyrddin.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos wedi cychwyn a daw i ben ar Hydref 29 2012.

Dim risg

Yn ystod yr wythnosau nesaf mae cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i'w cynnal o fewn ardal y bwrdd i holi cwestiynau i'r bwrdd iechyd.

Bydd y cyfarfod cyntaf ym Mharc y Scarlets ar Fedi 4 (7pm-9pm); yr ail ar Fedi 5 yng Nghanolfan y Morlan Aberystwyth (7pm-9pm) a'r trydydd ar Fedi 20 yn Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd "na fyddai'r Bwrdd yn cymryd unrhyw risg gyda diogelwch ein plant na babanod".

"Ond ar hyn o bryd, does yr un o'n Unedau Gofal Arbennig Babanod yn cyd-fynd yn llwyr gyda chanllawiau cenedlaethol," meddai.

"Mae angen un uned ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Hywel Da fyddai'n cael ei gefnogi gan Rwydwaith Babanod Newydd-anedig Cymru."

Ar hyn o bryd byddai mamau a babanod sydd angen y gofal mwyaf arbenigol yn gorfod mynd i Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Byddai hynny'n golygu taith o tua dwy awr a hanner i drigolion gogledd Ceredigion.