Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymgynghoriad ar roi organau yn dod i ben
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfraith newydd i newid y drefn o roi organau yn dod i ben ddydd Llun.
Cafodd y ei gyhoeddi fis Mehefin.
Bydd pobl yn rhoddwyr os nad ydyn nhw wedi optio allan o fod ar y gofrestr rhoi organau, o dan y drefn arfaethedig.
Mae gweinidogion yn gobeithio cyflwyno'r ddeddf newydd erbyn 2015.
Mae rhai, gan gynnwys grwpiau crefyddol, wedi codi pryderon am y rheolau newydd.
Ond yn 么l rhai sy'n gefnogol, byddai'n arwain at gynnydd o hyd at chwarter yn nifer yr organau sy'n cael eu rhoi.
Yng Nghymru'r llynedd, dim ond 67 o bobl oedd wedi rhoi organau i'w trawsblannu - ond mae 'na ryw 300 o bobl yn disgwyl am organau ar hyn o bryd.
Wrth lansio'r mesur drafft, dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths:
"Rwy'n credu ei bod hi'n amser cyflwyno newid yn y gyfraith ynghyd 芒 rhaglen gyfathrebu ac addysgol newydd i annog pobl i wneud penderfyniad ac i sicrhau bod eu teuluoedd yn ymwybodol o'u dewis."
Pryderon
Ond mae'r ddeddfwriaeth wedi denu beirniadaeth, gyda'r Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Babyddol yng Nghymru a Chenhadaeth Uniongred Cymru i gyd wedi codi pryderon.
Mewn datganiad adeg y cyhoeddwyd y mesur drafft, dywedodd esgobion yr Eglwys yng Nghymru y dylai Cristnogion gael eu hannog i ymuno 芒'r gofrestr rhoddwyr, ond fod rhoi organau yn "anrheg allgarol" a "ddylai gael ei roi o ddewis ac nid yn ganiataol".
"Mae tystiolaeth y byddai system o roi 'awtomatig' yn cynyddu nifer yr organau sy'n cael eu rhoi...yn dal i fod yn amheus," ychwanegodd yr esgobion.
Yn gynharach eleni, daeth arolwg barn gan 大象传媒 Cymru/ICM o 1,000 o bobl i'r casgliad fod 63% o blaid a 31% yn erbyn y polisi.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal ymgynghoriad, oedd yn gofyn nifer o gwestiynau am gyflwyno'r polisi, gan gynnwys pa ffactorau dylid eu hystyried wrth benderfynu a oedd unigolyn yn byw yng Nghymru a faint o bwys i'w roi ar ddymuniadau'r teulu.
Roedd y gweinidog wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymateb, a oedd yn dangos fod 52% o blaid a 39% yn erbyn y newid.
Doedd yr ymgynghoriad ddim yn gofyn yn uniongyrchol a oedd pobl yn cefnogi'r mesur - ond roedd 1,124 o'r rhai a ymatebodd wedi awgrymu barn, gyda 642 o blaid a 482 yn erbyn.