Cynnydd mewn achosion o'r p芒s yng Nghymru ym mis Medi

Ffynhonnell y llun, SPL

Disgrifiad o'r llun, Mae'r haint yn gallu lledu drwy'r aer

Yn 么l ffigyrau a gyhoeddwyd gan Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, mae 'na gynnydd yn nifer achosion y p芒s.

Yng Nghymru mae 'na 185 o achosion wedi eu cofnodi hyd yma eleni.

Y llynedd roedd 'na 37 achos ac wyth yn unig yn 2010.

Yn 么l yr asiantaeth, cafodd 1,322 o achosion eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Medi 2012.

Ar ddiwedd mis Medi fe wnaeth yr Adran Iechyd yng Nghymru a Lloegr gyhoeddi y bydd mamau beichiog yn cael cynnig brechiad i warchod eu babanod.

Dydi babanod ddim fel arfer yn derbyn y brechiad tan eu bod rhwng dau a phedwar mis oed.

"Rydym wedi bod yn bryderus am y cynnydd mewn achosion a bod 'na rai wedi marw," meddai Dr Mary Ramsay, pennaeth imiwnedd yr asiantaeth.

"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad i frechu merched beichiog."

Dywedodd na fyddai hyn yn cael effaith yn syth ac y dylai rhieni sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu.

Mae'r p芒s yn effeithio ar bobl o bob oed gyda phlant ifanc ymhlith y rhai mwya' bregus.