Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymorth amrywiol i ddioddefwyr trais
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod menywod sy'n diodde' trais yn wynebu "loteri cod post" wrth geisio cael cymorth.
Maen nhw wedi cyhoeddi adroddiad sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ateb y galw "brys" am wasanaethau arbenigol i gynorthwyo menywod i ail-adeiladu eu bywydau.
Bydd Gr诺p Gweithredu Atal Trais Yn Erbyn Menywod Cymru yn cwrdd 芒'r Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant, ddydd Mercher.
Daw'r cyfarfod cyn i bapur gwyn ar fesur i fynd i'r afael 芒 thrais yn y cartref gael ei gyhoeddi.
'Loteri'
Mae'r adroddiad yn galw am leihau pob math o drais yn erbyn menywod, nid dim ond trais yn y cartref gan bartner.
Mae'n dweud: "Mae yna loteri cod post o safbwynt darparu gwasanaethau i fenywod yng Nghymru, sy'n arwain at sefyllfa lle mae argaeledd y gefnogaeth yn dibynnu ar leoliad y fenyw, ac mae'n broblem yn enwedig i fenywod yng nghefn gwlad Cymru."
Mae'n cwyno hefyd am "wasanaethau prin" ar gyfer menywod du ac o leiafrifoedd ethnig.
Amcangyfrif yr ymgyrch yw y bydd dros 50,000 o fenywod yng Nghymru yn diodde' 203,075 o ddigwyddiadau o drais yn y cartref dros y flwyddyn nesaf, ond dim ond 3,385 o'r rhain fydd yn cael eu herlyn yn llwyddiannus.
'Cyfle gwych'
Dywedodd Naomi Brightmore, cadeirydd Gr诺p Gweithredu Atal Trais Yn Erbyn Menywod Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud camau da ar lefel polisi ar daclo trais yn erbyn menywod yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar, ac mae'r ddeddfwriaeth newydd yma yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i fenywod a phlant sy'n diodde' oherwydd trais a cham-drin."
Mae adran Mr Sargeant yn llunio deddfwriaeth fyddai'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gael strategaeth yn erbyn trais yn y cartref.
Er nad yw cyfraith droseddol yn fater sydd wedi ei ddatganoli, mae ffynnonellau o fewn Llywodraeth Cymru wedi s么n am yr angen i wella gwasanaethau "anghyson" sydd ar gael i gynorthwyo dioddefwyr.
Dywedodd Mr Sargeant bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod 芒 thrais yn erbyn menywod a thrais yn y cartref i ben.
"Mae digwyddiadau ar draws Cymru i siarad gyda rhanddeiliaid wedi bod yn digwydd, ac mae aelodau o Gr诺p Gweithredu Atal Trais Yn Erbyn Menywod Cymru wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr," meddai.
"Mae barn pawb, ynghyd ag adroddiad cynhwysfawr gan gr诺p arbenigol, wedi bod o gymorth mawr wrth ddatblygu'r papur gwyn."