Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rali 50 mlynedd ers Trefechan
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal protest 50 mlynedd i'r diwrnod ers eu gwrthdystiad cyntaf, yn Aberystwyth Ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y brotest wreiddiol yn Chwefror 1963 ychydig fisoedd wedi sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Awst 1962.
Yn ystod y brotest yn 1963 eisteddodd tua 40 o aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas yng nghanol y ffordd ar bont Trefechan am hanner awr.
Cafodd yr heddlu eu galw a bu nifer o bobl leol yn beirniadu'r protestwyr bryd hynny, ond credai'r protestwyr y byddai'r weithred yn denu sylw'r wasg ac yn rhoi pwnc diffyg statws y Gymraeg ar yr agenda cyhoeddus.
50 mlynedd yn ddiweddarach, roedd nifer o gyn-gadeiryddion y Gymdeithas a phrotestwyr gwreiddiol ymhlith cannoedd a orymdeithiodd i bont Trefechan mewn ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad.
'Sicrhau statws'
Yn siarad cyn y rali, dywedodd un o'r protestwyr gwreiddiol, Tedi Milward, a ddychwelodd i'r un lle ddydd Sadwrn: "Fe wnaeth y ddwy weithred - y brotest yn y swyddfa bost ac ar y bont, greu cyfnod newydd yn hanes yr iaith ac fe wnaeth ddangos fod pobl ifanc ac o bob oed yn fodlon gweithredu er mwyn sicrhau statws i'r Gymraeg."
Maen nhw'n galw ar Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones i sicrhau bod pobl yn medru 'byw yn Gymraeg'.
Fe ddaw'r rali ddyddiau ar 么l cyhoeddi ystadegau lleol Cyfrifiad 2011 yn dangos bod cadarnleoedd y Gymraeg yn crebachu.
Yn 2001 roedd 59 o wardiau lle oedd mwy na 70% o bobl yn siarad yr iaith ond roedd hyn wedi gostwng i 49 erbyn 2011.
'Angen gwneud mwy'
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwneud mwy i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
"Mae ein Strategaeth Iaith yn nodi chwe maes y mae angen canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yr iaith.
"Byddwn yn defnyddio canlyniadau'r Cyfrifiad i lywio ein gwaith ar yr iaith Gymraeg, nawr ac yn y dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb sydd 芒 diddordeb yn nyfodol yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ffyniant hirdymor yr iaith."
Mae disgwyl i ddirprwyaeth o'r gymdeithas gwrdd 芒 Carwyn Jones ddydd Mercher - mae'r Gymdeithas eisoes wedi cwrdd 芒'r tair gwrthblaid yn y Cynulliad i drafod eu "maniffesto byw", sef eu syniadau ar gyfer cryfhau'r Gymraeg a'i chymunedau, a'r Cyfrifiad.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r rali yn digwydd ddyddiau yn unig cyn i ni fel mudiad gyfarfod gyda Carwyn Jones.
"Byddwn yn galw arno a'r Llywodraeth i gydnabod yr argyfwng sydd yn wynebu'r Gymraeg, ac i weithredu er mwyn mynd i'r afael 芒 hynny.
"Bydd y rali yn gyfle felly i bobl gynyddu'r pwysau ar y Llywodraeth ac i fynnu byw yn Gymraeg."