Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi pedwar dewis ar gyfer Pont Ddyfi
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pedwar dewis ar gyfer dyfodol pont 200 oed yn y canolbarth.
Mae Pont Ddyfi yn cael ei chau yn aml o ganlyniad i lifogydd ar yr A487 rhwng Powys a Gwynedd.
Mae'r bont wedi ei difrodi yn y gorffennol gan lifogydd a cherbydau.
Gwybodaeth bellach
Dywedodd Maer Machynlleth, Gareth Jones, ei fod o o blaid codi pont newydd yn uwch i fyny'r afon.
Dywedodd Mr Jones ei fod o, a'r cyngor tref, am weld pont sy'n addas ar gyfer trafnidiaeth yr 21ain Ganrif.
"Mae hyn wedi bod yn broblem ers degawdau. Mae angen i ni wybod pryd fyddwn ni'n gweld rhywbeth yn digwydd.
"Mae angen gwybodaeth bellach arnom ni."
Y pedwar dewis yw:
- Pont newydd uwchlaw'r bont bresennol
- Pont newydd islaw'r bont bresennol
- Lledu a chryfhau'r bont bresennol, gwaith lleihau llifogydd a chodi'r A487 presennol
- Lledu a chryfhau'r bont bresennol a gwaith lleihau llifogydd
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y pedwar dewis yn cael eu hystyried ymhellach a bydd penderfyniad ar y ffordd ymlaen yn cael ei wneud yn ddiweddarach eleni.
Yn y cyfamser bydd gwaith ar gostau ac effaith amgylcheddol y cynlluniau yn parhau.