17,000 yn mynd o Wrecsam i Wembley
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 17,000 o gefnogwyr Clwb P锚l-droed Wrecsam yn gwneud y daith i Wembley ar gyfer rownd derfynol Tlws FA Lloegr ddydd Sul.
Dywedodd rheolwr y t卯m, Andy Morrell, bod taith gyntaf y t卯m i Wembley erioed yn wobr haeddiannol i'r cefnogwyr sydd bellach yn berchen ar y clwb.
Mae arweinydd Cyngor Wrecsam wedi dymuno'n dda i'r garfan, gan ddweud bod y bwrdeistref sirol yn mwynhau hwb oherwydd helyntion y clwb.
Bu'r garfan yn cwrdd 芒 chefnogwyr y tu allan i siop dros dro, a sefydlwyd gan y clwb yng nghanolfan siopa D么l yr Eryrod ddydd Iau, er mwyn gwerthu nwyddau arbennig yn ymwneud 芒'r achlysur.
'Mwyafrif y dre'
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Neil Rogers: "Mae Andy Morrell a'i chwaraewyr yn mwynhau tymor da, ac mae cael diwrnod allan yn Wembley yn wobr i bawb fu'n brwydro mor galed dros GPD Wrecsam.
"Rwy'n credu bod mwyafrif poblogaeth Wrecsam yn anelu am Wembley y penwythnos yma, ac mae llwyddiant y t卯m yn sicr wedi cyfrannu at deimlad da o gwmpas y dref.
"Mae'r dre'n mwynhau hwb anferth pan mae'r t卯m p锚l-droed yn gwneud yn dda, ac mae pawb yng nghyngor Wrecsam yn dymuno'n dda i'r t卯m ddydd Sul."
Prynwyd y clwb gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam (YCW) yn Rhagfyr 2011, ac fe wnaeth Prifysgol Glynd诺r gymryd rheolaeth o stadiwm y Cae Ras.
Y rhagolygon oedd y byddai'r t卯m yn gorffen y tymor gyda diffyg ariannol o 拢200,000, ond mae'r penaethiaid nawr yn credu y dylai'r arian o werthiant tocynnau'r rownd derfynol - oddeutu 拢250,000 - ddod 芒'r clwb allan o'r coch.
Maen nhw hefyd yn credu bod gwerthiant o nwyddau yn siop y clwb yn werth dros 拢40,000 yn barod.
Ychwanegodd y prif weithredwr, Don Bircham, bod y wobr am ennill y Tlws ddydd Sul yn 拢86,000 gyda'r t卯m sy'n colli yn derbyn dros 拢60,000.
Ofergoelus
Ond mae Wrecsam yn gobeithio am "ddwbl" y tymor hwn ac yn sicr ennill dyrchafiad yn 么l i'r gynghrair b锚l-droed yw'r flaenoriaeth.
Dywed Mr Bircham fod hynny'n werth 拢700,000 bob tymor i'r t卯m.
Mae'r clwb wedi llwyddo i lenwi dros 80 o fysiau sy'n gadael am Lundain yn gynnar fore Sul am daith gyntaf Wrecsam i bencadlys p锚l-droed Lloegr yn eu hanes o 150 o flynyddoedd.
Mae cwmni Trenau Arriva Cymru hefyd wedi gwerthu bob tocyn ar dr锚n arbennig sy'n mynd yn syth o Wrecsam i Stadiwm Wembley.
Un cefnogwr sydd ddim eto wedi penderfynu os fydd yn teithio i Wembley neu beidio yw un o arwyr y clwb, Joey Jones.
Mae cyn-gefnwr Wrecsam a Lerpwl bellach yn hyfforddi'r ail d卯m, ac mae'n cyfadde' ei fod yn ofergoelus iawn. Nid yw wedi bod yn gweld y t卯m cyntaf yn chwarae oddi cartref y tymor hwn, ac mae ganddo ofn temtio ffawd os fydd yn ymuno 芒'r garfan.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru y byddai'n well ganddo weld y t卯m yn ennill dyrchafiad, gan ddweud:
"Fe fyddwn i'n dewis hynny bob tro dros ennill y cwpan.
"Ond os ydych chi mewn cystadleuaeth, rhaid i chi geisio'i hennill."
Mae'r rheolwr Andy Morrell yn cytuno, ond yn dweud bod dydd Sul yn gyfle i'r cefnogwyr gael diwrnod allan, gan iddyn nhw gefnogi'r clwb yn y dyddiau du cyn i'r cefnogwyr brynu'r clwb yn 2011.
"Mae'r peth wedi dal dychymyg y dref yn sicr," meddai.
"Fe fydd hi'n ddiwrnod gwych, ond mae'n g锚m y mae'n rhaid i ni ei hennill."
Cadarnhaodd FA Lloegr ddydd Iau bod cefnogwyr Wrecsam wedi prynu dros 17,000 o docynnau, tra bod cefnogwyr y gwrthwynebwyr - Grimsby Town - wedi prynu 15,680 o docynnau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012