Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Casnewydd yn coroni 'blwyddyn anhygoel'
Fe gurodd Casnewydd Wrecsam yn Wembley i ddychwelyd i'r Cynghrair P锚l-droed wedi bwlch o chwarter canrif brynhawn Sul.
Daeth dwy g么l i'r Alltudion yn y pum munud olaf yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Roedd tor calon i gefnogwyr Wrecsam wedi iddyn nhw golli yn y gemau ail gyfle am y trydydd tro yn olynol.
'Blwyddyn anhygoel'
Eisoes mae ffigyrau amlwg wedi bod yn llongyfarch Casnewydd, gan gynnwys y Prif Weinidog Carwyn Jones a ddywedodd:
"Llongyfarchiadau gwresog i Gasnewydd ar eu dyrchafiad i'r Cynghrair P锚l-droed - anlwc i Wrecsam a fethodd o drwch blewyn gael ail fuddugoliaeth yn Wembley o fewn ychydig wythnosau.
"Gydag Abertawe yn ennill Cwpan y Cynghrair, Caerdydd yn ymuno gydag Abertawe yn yr Uwchgynghrair, Wrecsam yn ennill Tlws yr FA, Gareth Bale yn cael ei ystyried yn un o b锚l-droedwyr gorau'r byd ac yn awr Casnewydd yn cyrraedd y Cynghrair, mae hon wedi bod yn flwyddyn anhygoel i b锚l-droed yng Nghymru."
Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn: "Mae hanes diweddar y clwb wedi bod yn ofnadwy, yn enwedig yn y 1980au hwyr pan aeth y clwb i'r wal.
"Mae'n glod i bawb sydd wedi dyfal barhau gyda'u teyrngarwch i'r clwb."
Ychwanegodd Aelod Cynulliad De-Ddwyrain Cymru, y Ceidwadwr William Graham:
"Mae hwn yn llwyddiant a ddaw 芒 budd hir-dymor i Gasnewydd a'r cyffiniau. Fe fydd y budd economaidd i'w deimlo am hir wedi i'r dathliadau orffen.
"Mae'n hwb anferth i'n dinas, ac rwy'n llongyfrach pawb sydd wedi cynorthwyo hyn i ddigwydd."
'Siom enfawr'
Yng nghanol y dathlu, roedd tor calon unwaith eto i Wrecsam. Dywedodd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glynd诺r:
"Mae clwb Wrecsam wedi brwydro'n galed drwy'r tymor, ac mae boddi wrth ymyl y lan fel hyn yn siom enfawr i Andy Morrell (y rheolwr), y chwaraewyr a'r cefnogwyr sydd wedi eu cefnogi mor deyrngar y tymor hwn.
"Mae pawb ym Mhrifysgol Glynd诺r yn dymuno'r gorau iddyn nhw - rwy'n si诺r y byddan nhw yn 么l y tymor nesaf yn gryfach nag erioed."