Eisteddfod Llangollen 2013 yn dathlu sawl pen-blwydd

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Llangollen

Disgrifiad o'r llun, Roedd N锚st Adams yn saith mlwydd oed pan gyflwynodd dusw o flodau i'r Frenhines

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu nifer o ben-blwyddi eleni.

Mae hi'n 60 mlynedd ers i'r Frenhines ymweld 芒'r eisteddfod, yn fuan ar 么l iddi gael ei choroni.

Yn yr un flwyddyn ymwelodd Dylan Thomas 芒 Llangollen er mwyn darlledu o'r eisteddfod ar gyfer y 大象传媒.

Yn ogystal bydd un o gyngherddau'r eisteddfod yn dathlu 200 mlynedd o Giuseppe Verdi gyda pherfformiad o'i offeren dros y meirw (Requiem).

Bydd y ferch saith oed, a gyflwynodd dusw o flodau i'r Frenhines newydd yn 1953, yn westai arbennig yn y digwyddiad eleni.

Mae N锚st Adams bellach wedi ymddeol ac wedi dychwelyd i fyw yn Llangollen ac mae hi'n cofio'r digwyddiad yn glir.

Ymarfer cyrtsi

"Roedd yn rhaid imi ymarfer gwneud cyrtsi a chymryd chwe cham yn 么l oherwydd doeddech chi ddim yn cael troi eich cefn ar y Frenhines," meddai Ms Adams.

"Bu fy mam yn fy hyfforddi gan ofalu fy mod yn ymarfer gwneud cyrtsi yn ofalus.

Ffynhonnell y llun, Ceidiog PR

Disgrifiad o'r llun, Mae N锚st Adams wedi cadw'r ffrog roedd hi'n ei wisgo 60 mlynedd yn 么l

"Doeddwn i ddim yn nerfus oherwydd roeddem ni wedi hen arfer cymryd rhan mewn digwyddiadau a mynd ar y llwyfan i berfformio yn eisteddfodau'r capel.

"Mae'r ffrog oeddwn i'n ei gwisgo, y ffotograffau a'r toriadau papur newydd yn dal gen i."

Rhai eraill fydd yn dychwelyd i'r eisteddfod eleni fydd aelodau o g么r plant o Obernkirchen yn Yr Almaen.

Daeth y c么r yn enwog am ganu c芒n o'r enw The Happy Wanderer wedi i'r 大象传媒 ddarlledu eu perfformiad yn Llangollen.

Mae Eisteddfod Llangollen 2013 yn dechrau ar 9 Gorffennaf ac yn gorffen ar 14 Gorffennaf.

Bydd gorymdaith draddodiadol y cystadleuwyr ar hyd strydoedd Llangollen ar y dydd Mawrth, o 4.30yh ymlaen.

Ymhlith y rhai fydd yn perfformio yn y cyngherddau eleni bydd Jools Holland a'i Gerddorfa Rhythm and Blues, c么r Only Men Aloud a'r unawdydd offer taro Evelyn Glennie.