Gwasanaeth Iechyd: dyfodol ariannol heriol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn dweud bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu mwy o doriadau na gweddill Prydain

Mae llawdriniaethau wedi cael eu gohirio, a rhestrau aros yn tyfu mewn ymgais gan y Gwasanaeth Iechyd i geisio arbed arian yng Nghymru.

Dyna mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ei ddweud wrth gyhoeddi adroddiad i gyllid y Gwasanaeth Iechyd.

Mae'r adroddiad yn dweud bod byrddau iechyd yn wynebu dyfodol anodd yn ariannol, wrth iddyn nhw geisio arbed 拢404尘 eleni.

Ond, mae'r gweinidog iechyd Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod llwyddiant y gwasanaeth i aros o fewn ei gyllideb yn 2012/13.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud bod yr adroddiad yn dangos y straen y mae'r gwasanaeth yn wynebu.

拢404尘

Mae 拢192m wedi ei arbed yn barod drwy doriadau, ond mae'r Swyddfa yn rhybuddio y bydd hi'n anoddach i wneud mwy o doriadau heb effeithio ar safonau gofal i gleifion.

Mae'r Swyddfa hefyd yn feirniadol o'r modd y mae byrddau iechyd wedi arbed arian, gan gynnwys gohirio nifer o lawdriniaethau oedd wedi eu cynllunio, er mwyn lleihau gwariant.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio nad ydy hynny yn rhoi gwerth am arian, nac yn gynaliadwy.

Yn 么l yr adroddiad, mae perfformiad y gwasanaeth mewn gofal brys hefyd wedi gwaethygu, a dydy targedau trin cleifion canser ddim yn cael eu cyrraedd.

Ond mae'r GIG wedi llwyddo i leihau amseroedd aros mewn ysbytai, dod i'r afael a heintiau fel MRSA a C Difficile, ac mae gofal i bobl sydd wedi dioddef o str么c wedi gwella.

Cyllid ychwanegol

Er bod y gwasanaeth wedi llwyddo i wario llai na'r gyllideb a roddwyd, dywedodd yr adroddiad bod hyn oherwydd cyllid ychwanegol gan y llywodraeth o 拢92m.

Daeth hyn er i'r llywodraeth ddweud na fyddai'n rhoi unrhyw arian ychwanegol i fyrddau iechyd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

Mae'r Swyddfa yn honni bod hyn ond yn ateb "byr-dymor", ac yn rhoi negeseuon cymysg i awdurdodau iechyd.

Mae'r Swyddfa hefyd yn feirniadol o ffigyrau sydd wedi eu "gorliwio" gan fyrddau, a bod y rhain yn canolbwyntio yn ormodol ar gyrraedd targedau byr-dymor.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y sefyllfa ariannol yng Nghymru ymysg yr anoddaf ym Mhrydain, gyda gwariant i bob pen ym maes iechyd yn llai 'na'r Alban, gogledd Iwerddon ac ardaloedd tebyg yn Lloegr.

Ymateb

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd Darren Millar AC bod angen i'r Llywodraeth atal toriadau i gyllideb y gwasanaeth iechyd:

"Mae perfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi plymio ac mae gofal i gleifion wedi ei gyfaddawdu oherwydd toriadau gan y blaid Lafur.

"Gyda diffyg o 拢212 miliwn yn y flwyddyn ariannol yma, mae'r sefyllfa yn debygol o waethygu. Rydw i'n annog gweinidogion Llafur i weithredu i achub ein gwasanaeth iechyd."

Dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, mai cleifion oedd yn talu'r pris am gamreolaeth y Llywodraeth o'r gwasanaeth:

"Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru dan straen anferthol. Mae'r adroddiad yn dweud bod y GIG yn annhebygol o gynnal lefelau presennol o wasanaeth a pherfformiad.

"Mae amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru'r hiraf yn y DU, mae targedau amseroedd aros i drin canser wedi ei methu ers 2008 a dydy targedau gofal brys erioed wedi eu cyrraedd.

"Mae meddwl y gall rhai gwasanaethau ddirywio ymhellach yn arswydus."

Ond yn ol y gweinidog iechyd, Mark Drakeford mae'r adroddiad yn dangos bod perfformiad yn gallu gwella, er gwaethaf y sefyllfa anodd:

"Er yr amgylchiadau anodd iawn yma, mae'r adroddiad yn dangos bod y GIG yn hynod wydn. Hyd yn oed mewn adegau caled, mae perfformiad yn gallu gwella."