大象传媒

Economi'n tyfu 0.6% yn yr ail chwarter

  • Cyhoeddwyd
arian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd nifer wedi darogan y byddai'r economi yn tyfu 0.6%

Mae economi'r DU wedi tyfu 0.6% yn y tri mis hyd at fis Mehefin, yn 么l y ffigurau swyddogol diweddara'.

Cafodd y ffigurau diweddara' ar Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) eu cyhoeddi ddydd Iau.

Roedd nifer wedi darogan y byddai'r canran yn dyblu o'i gymharu 芒'r twf o 0.3% yn ystod y chwarter blaenorol.

Yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd mwy o weithgaredd yn y sectorau adeiladu, gweithgynhyrchu a gwasanaethau.

Dyma'r amcangyfrif cynta' ar gyfer twf yn ystod ail chwarter 2013, ac mae wedi ei selio ar tua 44% o'r data ar weithgaredd economaidd.

Dywedodd y Canghellor George Osborne fod y ffigurau'n "well na'r hyn oedd wedi'i ddarogan".

"Mae Prydain yn dal ei thir, rydym yn cadw at ein cynllun, ac mae economi Prydain yn adfywio - ond mae 'na lawer o ffordd i fynd eto ac rwy'n gwybod ei bod hi'n dal yn anodd i deuluoedd," ychwanegodd.

Mae'r canlyniadau'n golygu fod yr economi wedi adennill bron hanner yr hyn a gollwyd, pan grebachodd yr economi o 7.2% yn ystod y dirwasgiad yn 2008-09.

Mae'r allbwn yn parhau i fod 3.3% yn is na'r hyn oedd cyn y dirwasgiad.

Ymateb

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar yr economi, Eluned Parrott AC, ei bod hi'n croesawu'r ffigurau diweddara'.

"Cafodd llywodraeth glymblaid y DU ei ffurfio pan oedd sefyllfa economaidd y wlad yn wantan iawn... Yn raddol mae'r cynllun adfer yn dechrau gweithio ac mae'r economi yn adfywio.

"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach, gan alluogi pawb i symud ymlaen yn eu bywydau. Mae hybu twf a chreu swyddi yn ganolog i hynny."

Yn 么l llefarydd Llafur ar faterion Cymreig, Owen Smith AS, mae'n "hen bryd" gweld twf o'r fath.

Meddai: "Mae'r llywodraeth yma, dan arweiniad y Ceidwadwyr, wedi gwastraffu tair blynedd felly rwy'n croesawu'r ffigurau twf yma, maen nhw'n gam bychan i'r cyfeiriad cywir.

"Y prawf nawr yw sicrhau fod y twf yn cael ei gynnal a'i fod yn arwain at godi safonau byw'r rhan fwya' o weithwyr, nid dim ond y mwya' ariannog o fewn cymdeithas."

Mae Plaid Cymru hefyd wedi croesawu'r cynnydd mewn GDP, ond maent yn rhybuddio bod angen sicrhau swyddi sy'n talu'n well er mwyn gwella safonau byw.

Dywedodd eu llefarydd ar yr economi, Alun Ffred Jones AC: "Nes y gwelwn gynnydd mewn cyflogau a safonau byw yna nid oes rheswm i ddathlu. Mae teuluoedd yn teimlo'r pwysau wrth i filiau godi'n gyflymach na chyflogau, sy'n ei gwneud hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol