大象传媒

'50% yn cael trafferth talu'r morgais'

  • Cyhoeddwyd

Mae bron hanner poblogaeth Cymru'n teimlo eu bod nhw'n cael trafferth talu eu rhent neu eu morgais, yn 么l ymchwil Shelter Cymru a Cyngor ar Bopeth.

Dywedodd 48% eu bod yn ei chael hi'n anodd talu - ac yn methu talu ar adegau - gyda 12% o'r rheiny yn dweud eu bod yn cael trafferth bob mis.

Mae hyn yn sgil ffrae wleidyddol rhwng Llafur a'r Tor茂aid dros honiadau bod Cymry'n ennill 8% yn llai o gyflog o'i gymharu 芒'r adeg yma llynedd.

Dywedodd Llafur mai'r Ceidwadwyr a'u polis茂au economaidd oedd ar fai ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud mai'r llywodraeth Lafur flaenorol oedd ar fai.

'Peri gofid'

Nid yw canlyniadau'r arolwg yn fesur pendant o allu pobl i dalu am gostau byw oherwydd gofynwyd am eu barn a oedden nhw'n cael trafferthion ariannol.

Dywedodd John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru: "Mae'r ffigurau hyn yn peri gofid.

"Mae'n amlwg bod llawer o bobl ddim ond yn prin llwyddo i gael deupen llinyn ynghyd.

"Byddai un anlwc megis colli eu gwaith neu fethu 芒 gweithio yn ddigon i'w bwrw dros y dibyn ...

"Mae'n ddigon drwg bod bron i hanner y bobl yn yr arolwg a oedd yn talu rhent neu forgais yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd o leiaf ar adegau ond mae'n rhaid i ni ystyried hefyd fod llawer o bobl ar forgeisi talu-llog-yn-unig a bod y lefelau llog yn gymharol isel o hyd.

"Os bydd hyn yn newid neu os daw d锚l morgais pobl i ben, yna gallai'r sefyllfa hon fynd o ddrwg i waeth."

Newidiadau budd-dal

Honnodd bod y newidiadau i'r system fudd-daliadau yn un o'r rhesymau pam bod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd.

Dywedodd 11% o denantiaid cymdeithasau tai a thai cyngor eu bod wedi cymryd mwy nag un benthyciad diwrnod cyflog yn y flwyddyn ddiwethaf i'w helpu i dalu eu costau byw.

"Mae'n ymddangos ei bod yn deg tybio bod ansicrwydd ac anawsterau ariannol tenantiaid tai cymdeithasol a thai cyngor yn deillio'n uniongyrchol o'r newidiadau ysgubol mewn budd-daliadau, yn enwedig toriadau yn y budd-dal tai a chyflwyno'r dreth ystafell wely," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol