Cynnal adolygiad o Gyngor Caerffili

Disgrifiad o'r llun, Mae Anthony O'Sullivan wedi ei wahardd o'i swydd fel pennaeth y cyngor

Bydd adolygiad arbennig o drefniadau Cyngor Sir Caerffili'n cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni, yn dilyn cyhoeddiad adroddiad beirniadol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

Mae'r adroddiad yn dweud fod "diffygion difrifol" yn y ffordd roedd y cyngor yn cael ei redeg.

Er hyn, mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod fod y cyngor wedi llwyddo i wneud rhai gwelliannau i'w wasanaethau.

Mae'r cyngor wedi dweud eu bod yn derbyn canfyddiadau'r adroddiad.

Gwahardd pennaeth

Mae pennaeth y cyngor, Anthony O'Sullivan a'i ddirprwy Nigel Barnett wedi eu gwahardd wrth i heddlu ymchwilio i godiadau cyflog gafodd eu derbyn gan nifer o staff oedd eisoes yn derbyn cyflogau sylweddol.

Cafodd Stuart Rosser, oedd yn arfer rhedeg y cyngor rhwng 2005 a 2010, ei ail-benodi fel pennaeth y cyngor - penodiad gafodd ei groesawu gan Lafur, y blaid fwyaf o fewn y cyngor a Plaid Cymru, yr wrthblaid.

Ym mis Mawrth fe wnaeth SAC ddod i'r casgliad fod y cyngor wedi ymddwyn yn anghyfreithlon yn y ffordd roedd yn mynd ati i benderfynu ar dal uwch-swyddogion.

Mae ymchwiliad mewnol y cyngor i'r honiadau wedi cael ei ohirio tra mae'r heddlu'n mynd ati i gynnal eu hymchwiliad nhw.

'Rhai gwelliannau'

Mae'r adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi yn dweud fod methiannau "difrifol" yn llywodraeth y cyngor a bod hynny'n golygu bod angen "arolygiad llywodraethu corfforaethol arbennig" o'r cyngor.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Huw Vaughan Thomas: "Er bod gwendidau yn ei drefniadau hunanwerthuso, ac er bod gwelliant mewn rhai meysydd allweddol yn araf, mae'r Cyngor wedi gwneud rhai gwelliannau i'w wasanaethau.

"Fodd bynnag, ers dod i'r casgliad ym mis Medi 2012 bod y Cyngor yn debygol o gydymffurfio 芒'r gofyniad i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yn ystod 2012-13, rydym wedi canfod diffygion difrifol yn ei drefniadau llywodraethu, ac o ganlyniad byddaf yn cynnal arolygiad llywodraethu corfforaethol arbennig o'r Cyngor yn ddiweddarach eleni."

Dywedodd pennaeth presennol y cyngor, Stuart Rosser: "Rydym yn cydnabod ac yn derbyn canfyddiadau'r adroddiad gwella blynyddol a gallaf gadarnhau fod gwaith eisoes wedi dechrau i fynd i'r afael 芒 llawer o faterion sy'n cael eu codi yn y ddogfen.

"Rwy'n ffyddiog y bydd y cyngor yn llwyddo i reoli'r materion yma yn llwyddiannus diolch i'n gweithwyr gwych a chefnogaeth barhaus yr aelodau.

"Rwy'n awyddus i sicrhau dinasyddion ein bod ni'n symud ymlaen fel sefydliad a bod ein ffocws yn parhau i fod ar ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i bob rhan o'r gymdeithas.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Harry Andrews o'r Blaid Lafur: "Wrth gwrs, rydym yn siomedig yngl欧n 芒 rhai o'r materion sydd wedi cael eu codi yn y ddogfen hon.

"Ond mae gen i bob ffydd yn ein gweithlu rhagorol ac rwy'n gwybod fod camau eisoes yn cael eu cymryd i fyd i'r afael a rhai o'r pryderon sydd wedi eu codi."