Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen 拢250,000 i amddiffyn stad dai rhag llifogydd
Mae angen cwblhau gwaith adeiladu gwerth 拢250,000 i ddiogelu stad dai rhag llifogydd, yn 么l adroddiad gan Gyngor Sir Ddinbych.
Mae'r adroddiad yn ganlyniad i ymchwiliad i lifogydd ar stad Glasdir yn Rhuthun y llynedd.
Dywedodd yr adroddiad mai ceuffosydd oedd wedi eu cau oedd ar fai am y llifogydd, oedd wedi effeithio ar 122 o dai.
Nawr mae cynghorwyr yn dweud bod angen yr arian i godi maint argloddiau, ac maent wedi gofyn i adeiladwr y tai a Llywodraeth Cymru i gyfrannu.
Dysgu gwersi
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi wythnos diwethaf, a dywedodd yr ymchwilwyr annibynnol nad oedd ceuffosydd wedi eu cynllunio yn gywir, ac nad oeddent yn cyd-fynd 芒'r safonau cywir.
Dywedodd yr adroddiad nad y cyngor oedd ar fai, ond bod angen dysgu gwersi.
Roedd trigolion y stad wedi cael gwybod mai siawns un mewn 1000 o flynyddoedd oedd y byddai llifogydd yn effeithio'r tai newydd, ond cododd lefel y d诺r yn afon Clwyd dros yr amddiffynfeydd wedi cyfnod o law trwm fis Tachwedd y llynedd.
Mae'r adroddiad yn galw am godi uchder yr argloddiau o hyd at 1.1m (3.5tr) mewn rhai ardaloedd, a sicrhau bod ceuffosydd yn cael eu harchwilio yn rheolaidd.
Dywed yr adroddiad: "Mae disgwyl i'r gost o weithredu'r argymhellion o godi maint argloddiau fod o gwmpas 拢250,000.
"Mae'r cyngor mewn trafodaethau yngl欧n 芒 chyfraniad at gostau gyda Taylor Wimpey, sy'n berchen y tir lle byddai'r argloddiau yn cael eu hadeiladu, a Llywodraeth Cymru."
Mae adroddiad diweddar wedi awgrymu bod angen gwerth 拢5m o waith i adeiladu amddiffynfeydd yn Llanelwy, wedi i 500 o dai gael eu taro gan lifogydd pan orlifodd afonydd Elwy a Chlwyd ym mis Tachwedd y llynedd.