大象传媒

Silk: Nick Clegg yn beio'r Ceidwadwyr am yr oedi

  • Cyhoeddwyd
Nick Clegg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nick Clegg yn credu y byddai'n "gall" symud ymlaen gyda rhai o argymhellion Comisiwn Silk cyn gynted 芒 phosib

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg wedi beio'r Ceidwadwyr am yr oedi wrth gyflwyno ymateb llywodraeth y DU i'r argymhellion ar ddyfodol datganoli yng Nghymru.

Mae Comisiwn Silk, sy'n edrych ar bwerau'r cynulliad, wedi argymell datganoli rhai grymoedd i newid trethi.

Ond dydy'r llywodraeth yn San Steffan ddim wedi ymateb eto, er bod disgwyl iddyn nhw wneud hynny yn y gwanwyn.

Dywedodd Mr Clegg ei fod yn ceisio perswadio'i bartneriaid Ceidwadol o fewn y glymblaid y byddai trosglwyddo rhagor o bwerau yn "gall".

'Rhywbeth call i'w wneud'

"Rwy'n parhau yn gefnogol i'r egwyddor o ddatganoli pellach i Gymru ond wna' i ddim gwadu nad yw honno'n farn sy'n cael ei rhannu gan bawb o fewn y llywodraeth," meddai.

"Ond rwy'n dal i geisio perswadio fy nghyd-weithwyr Ceidwadol ac eraill fod hyn yn rhywbeth call i'w wneud.

"Mae 'na fanylion y mae'n rhaid i ni eu cael yn gywir, wrth gwrs, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth mwy gwleidyddol o ran a ddylen ni barhau gyda datganoli pellach ar hyn o bryd.

Dywedodd Mr Clegg ei fod yn falch bod y glymblaid wedi "helpu i sicrhau rhagor o fuddsoddiad cyfalaf i Gymru, rhoi mwy o ryddid i'r cynulliad yng Nghaerdydd, cefnogi'r refferendwm ar gyfer mwy o'r rhyddid hwnnw".

Ychwanegodd ei fod yn credu ei bod yn bwysig gwrando ar farn gwleidyddion o bobl plaid ym Mae Caerdydd a bod hynny'n dal i ddigwydd.

"Roedd Silk 1, fel roedd o'n cael ei adnabod, yn edrych ar yr agweddau ariannol ac economaidd ac roedd 'na gefnogaeth drawsbleidiol yng Nghymru...a dyna pam rwy'n credu y byddai'n syniad da gweithredu ar yr agweddau hynny cyn gynted 芒 phosib."

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU: "Mae'r llywodraeth wedi ymateb i bryderon o'r diwydiant am ddatganoli arfaethedig treth stamp drwy ymgynghori pellach.

"Rydym yn ystyried y cyflwyniadau pellach sydd wedi cael eu gwneud."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol