Streic diffoddwyr t芒n ar ben

Disgrifiad o'r llun, Bydd y steic yn digwydd rhwng hanner dydd a 4:00pm ddydd Mercher

Mae Gwasanaethau T芒n ac Achub Cymru wedi dweud bod y gwasanaeth arferol wedi ailddechrau yn dilyn y streic bedair awr gan aelodau o undeb diffoddwyr yr FBU.

Aeth aelodau o'r undeb ar streic rhwng hanner dydd a 4:00pm ddydd Mercher yng Nghymru a Lloegr mewn anghydfod am bensiynau.

Cafodd y tri gwasanaeth yng Nghymru gyfnod cymharol ddistaw yn ystod y pedair awr, ac roedd y tri wedi gwneud cynlluniau ar gyfer y cyfnod streicio.

Dywedodd Prif Swyddog Cynorthwyol De Cymru, Rod Hammerton ei fod yn falch o'r ffordd y gwnaeth y gwasanaeth ymdopi a rheoli'r gwasanaeth yn ystod y streic.

Dywedodd ef:

"Yn 么l y disgwyl roedd nifer y diffoddwyr o Wasanaeth T芒n ac Achub De Cymru a ddewisodd fod yn rhan o'r streic yn uchel, gan arwain at leihad mawr yn yr adnoddau oedd gennym wrth law.

"O ganlyniad nid oeddem yn medru darparu'r un lefel o ymateb ag arfer ac oherwydd hynny fe wnaethon ni flaenoriaethu ein hymateb i'r galwadau pwysicaf.

"Mae'r trefniadau a wnaed o flaen llaw wedi gweithio'n dda. Hoffwn nodi proffesiynoldeb ein staff - mae teimladau cryf yn gallu dod i'r amlwg mewn cyfnod fel hyn ond rwy'n falch o ddweud bod eu hymddygiad wedi bod yn gyson.

"Yn lleol fe fyddwn yn parhau i geisio cadw perthynas dda gyda staff ac yn cynnal trafodaethau adeiladol gyda chynrychiolwyr undeb.

"Ein gobaith yw y gall yr anghydfod rhwng yr FBU a'r llywodraeth ddirwyn i ben yn ddiogel a gyda chanlyniad sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr."

Yr un oedd yr hanes gan Brif Swyddog T芒n Gogledd Cymru Simon Smith:

"Roedd nifer y galwadau ddaeth i mewn yn ddim gwahanol i'r hyn y byddem yn disgwyl eu cael ar brynhawn yn yr wythnos ac rwy'n falch i ddweud ein bod wedi darparu gwasanaeth i bob ardal yn y gogledd drwy leoli adnoddau yn strategol.

"Fe gawsom un achos o d芒n wedi cael ei gynnau'n fwriadol ac mae hynny'n siomedig o ystyried bod hynny wedi golygu defnydd diangen o adnoddau prin."

'Cynnau'n fwriadol'

Dywedodd Prif Swyddog T芒n Canolbarth a Gorllewin Cymru Richard Smith bod y trefniadau wrth gefn wedi gweithio'n dda yno:

"O ganlyniad i'r trefniadau a wnaed a chnewyllyn o staff a weithiodd fel arfer dros gyfnod y streic roedd y Gwasanaeth mor agos i normal ag oedd yn bosibl.

"Fe ddeliwyd gyda phob galwad frys yn gyflym a phroffesiynol trwy gydol cyfnod y streic."

Roedd y tri yn pwysleisio nad yw hi'n glir hyd yma os fydd mwy o weithredu diwydiannol gan undeb yr FBU yn y dyfodol, gan nad yw'r anghydfod gyda llywodraeth San Steffan eto wedi ei ddatrys.

Dywedodd Cerith Griffiths o undeb yr FBU yng Nghymru bod tua 350-400 o ddiffoddwyr wedi bod y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher yn protestio fel rhan o'u hymgyrch.

Dywedodd bod gan yr undeb rhyw 3,000 o aelodau yng Nghymru, gan fynnu bod mwyafrif llethol y 3,000 wedi bod ar streic ddydd Mercher.

'Colli miloedd'

O dan gynlluniau'r llywodraeth, bydd diffoddwyr yn Lloegr yn derbyn eu pensiwn llawn yn 60 oed. Nid oes cytundeb hyd yma ar bensiynau yn Yr Alban na Chymru.

Dywed undeb yr FBU nad oes modd i ddiffoddwyr aros yn ddigon heini i weithio yn eu 50au hwyr, ac y byddai hynny'n peryglu diogelwch y cyhoedd.

Mae'r undeb yn dadlau y byddai pobl sy'n ymddeol yn 55 oed er enghraifft yn colli miloedd o bunnau'r flwyddyn.

Dywedodd Gweinidog T芒n Lloegr Brandon Lewis: "Mae'r llywodraeth wedi gwrando ar bryderon yr undeb - bydd diffoddwyr yn dal i dderbyn un o'r cynlluniau pensiwn mwyaf hael yn y sector cyhoeddus."