Diffoddwyr t芒n wedi streicio eto dros delerau pensiwn

Disgrifiad o'r llun, Roedd streic nos Wener yn un o gyfres. Cerddodd y diffodwyr yma allan o orsaf d芒n canol Caerdydd ar Fedi 25, ac mae'r FBU yn bwriadu cynnal streic arall fore Llun

Mae diffoddwyr t芒n yng Nghymru a Lloegr wedi streicio eto dros delerau pensiwn.

Dechreuodd y streic gan aelodau undeb diffoddwyr yr FBU nos Wener am 18:30 a daeth i ben am 23:00.

Bwriedir cynnal streic arall ddydd Llun.

Yng Nghymru, dywedodd llefarwyr ar ran gwasanaethau t芒n y gogledd a'r de na fu modd iddyn nhw ymateb fel arfer i alwadau brys yn ystod y streic a'u bod o'r herwydd wedi blaenoriaethu eu hymatebion.

Derbyniodd Gwasanaeth T芒n y De 24 o alwadau yn ystod cyfnod y streic nos Wener, anfonwyd pobl i saith o ddigwyddiadau yn y canolbarth a'r gorllewin ble cafwyd dwy alwad ffug hefyd; a bu'n rhaid anfon injans t芒n i bedwar digwyddiad yn y gogledd.

Mae'r FBU yn anhapus gyda chynlluniau Llywodraeth y DU i godi'r oed ymddeol o 55 i 60, gan honni bod y math o waith mae diffoddwyr t芒n yn ei wneud yn golygu bod gweithwyr h欧n yn ei chael hi'n anodd.

Ond mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn dweud bod streicio yn gwbl ddiangen ac yn gwneud niwed i enw da diffoddwyr t芒n.