Streic ddwy awr gan ddiffoddwyr

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae streic ddwy awr dydd Llun yn dilyn streic bedair awr a hanner ddydd Gwener

Mae diffoddwyr yng Nghymru wedi cwblhau streic ddwy awr fel rhan o anghydfod gyda llywodraeth y DU dros bensiynau fore Llun.

Dechreuodd y streic gan aelodau undeb yr FBU am 6:00yb a gorffen am 8:00yb, ac mae'n dilyn streic arall nos Wener.

Mae llywodraeth San Steffan yn bwriadu codi oed ymddeol diffoddwyr o 55 i 60, ac yn dweud bod y gweithredu diwydiannol yn "gwbl ddiangen".

Dywed yr undeb bod 60 yn rhy hen i fod yn brwydro tanau, ac y bydd eu haelodau'n wynebu cael eu diswyddo os fyddan nhw'n methu profion ffitrwydd.

Yn dilyn streic ddydd Gwener, dywedodd penaethiaid y gwasanaethau t芒n ar draws Cymru bod trefniadau wrth gefn wedi gweithio'n dda.

Roedd trefniadau tebyg mewn lle ar gyfer y streic fore Llun.

Wedi'r gweithredu cyn y penwythnos dywedodd ysgrifennydd yr FBU yng Nghymru, Cerith Griffiths, bod ei gydweithwyr yn gweithredu yn anfoddog.

"Mae'n swydd sy'n gofyn am lefel uchel o ffitrwydd," meddai.

"Mae'n rhaid i ddiffoddwyr fynd i mewn i adeiladu sydd ar d芒n gyda phobl fel arfer yn ceisio dod allan - mae'n rhaid i ni ddelio gyda thymheredd uchel iawn ar adegau.

"Mae ceisio gwneud hynny tan eich bod yn 60 oed yn mynd i fod yn anodd iawn."

Dywed llywodraeth y DU bod diffoddwyr wedi cael cynnig egwyddorion ffitrwydd tebyg i'r rhai gafodd eu derbyn gan yr FBU yn yr Alban, ac mae eu cynlluniau yn cynnig un o'r cynlluniau pensiwn mwyaf hael yn y sector cyhoeddus.