Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prif weithredwr Cyngor Sir Penfro yn aros yn ei swydd
Fydd Bryn Parry Jones ddim yn camu o'r neilltu tra bod ymchwiliad yr heddlu i daliadau yn cael ei gynnal.
Daeth y cadarnhad gan Gyngor Sir Penfro brynhawn dydd Llun.
Ddydd Gwener, fe dderbyniodd y cyngor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, oedd wedi canfod bod yr awdurdod wedi gwneud taliadau "anghyfreithlon" i'r Prif Weithredwr ac un uwch-swyddog arall.
Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, fe gyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin y byddai ei Brif Weithredwr, Mark James, yn rhoi'r gorau i'w ddyletswyddau yn ystod ymchwiliad yr heddlu.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: "Pwrpas ymchwiliad yr heddlu, gafodd ei gyhoeddi ar Chwefror 12, yw penderfynu oes yna drosedd wedi digwydd ai peidio.
"Nid ymchwiliad i ymddygiad unrhyw aelod o staff unigol yw hwn."
Ychwanegodd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Jamie Adams: "Dan yr amgylchiadau, mae'n anodd gweld sut y byddai talu'r Prif Weithredwr i aros adref yn ddefnydd effeithiol o arian cyhoeddus."